Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Iarla Ó Lionáird gyda Cormac McCarthy + Matthew Berrill

Iarla Ó Lionáird gyda Cormac McCarthy + Matthew Berrill

12 Hydref 2024

Mae’r canwr Gwyddelig Iarla Ó Lionáird, sydd wedi’i enwebu ddwywaith am wobr Grammy, yn ymuno â’r pianydd a’r cyfansoddwr enwog Cormac McCarthy a'r maestro clarinét llwyddiannus Matthew Berrill ar gyfer cywaith arbennig.

Mae Iarla Ó Lionáird wedi creu gyrfa hir ac unigryw iddo’i hunan ym myd cerddoriaeth yn Iwerddon ac yn rhyngwladol. O’i recordiad cynnar eiconig o’r gân weledigaeth “Aisling Gheal” yn llanc ifanc i’w recordiadau arloesol gyda Crash Ensemble o Ddulyn ac Alarm Will Sound o Efrog Newydd, mae wedi dangos uchelgais artistig sy’n ei osod ar wahân ym mrawdoliaeth cerddoriaeth Iwerddon.

Fel artist a enwebwyd ddwywaith am Grammy, mae Ó Lionáird wedi gweithio gyda chast o sêr o ran cyfansoddwyr rhyngwladol gan gynnwys Donnacha Dennehy, Dan Trueman, Kate Moore, Nico Muhly, Linda Buckley, Gavin Bryars a David Lang, ac mae wedi perfformio a recordio gydag enwogion fel Peter Gabriel, Nick Cave, Robert Plant a Sinead O'Connor. Mae ei arddull canu unigryw wedi mynd ag ef i lwyfannau a neuaddau cyngerdd ar draws y byd, o Neuadd Carnegie Efrog Newydd i Dŷ Opera Sydney a’r tu hwnt. Mae ei lais wedi ei glywed ym myd y sgrin fawr hefyd, gyda’i enw ar glodrestr ffilmiau o 'The Gangs of New York' i 'Hotel Rwanda' ac yn fwyaf diweddar fel canwr amlwg yn ffilm 'Brooklyn' gyda Saoirse Ronan. Ef yw lleisydd y band Gwyddelig/Americanaidd clodwiw 'The Gloaming'.

Pianydd, cyfansoddwr, trefnydd ac arweinydd o ddinas Corc, Iwerddon yw Cormac McCarthy. Yn nodedig am ei ystod o arddulliau gwahanol, a’r un mor gartrefol mewn amrywiaeth o genres, dywedir bod ei gerddoriaeth yn 'gwrthod cael ei chategoreiddio' (Lyric FM). Yn 2010, ar ôl cwblhau ei radd Meistr mewn cyfansoddi yn Ysgol Gerdd MTU Corc, cafodd Cormac Fwrsariaeth Cerddoriaeth Ryngwladol fawreddog Bill Whelan, gwobr a glustnodir ar gyfer cyfansoddwyr Gwyddelig ifanc sy’n astudio dramor. Treuliodd sawl blwyddyn yn byw yn Chicago, lle cwblhaodd radd Meistr mewn Astudiaethau Jazz ym Mhrifysgol DePaul.

Mae ei gyfansoddiadau a’i drefniannau wedi’u perfformio a’u recordio gan artistiaid gan gynnwys Phil Woods, Jeff Hamilton, Mick Flannery, Martin Hayes, Andrea Corr, Gavin James, Niamh Regan, Jack O’Rourke, Ensemble Jazz DePaul, Cerddorfa Gyngerdd RTÉ, Ensemble Crash, Cerddorfa Jazz Newydd Iwerddon a Cherddorfa Gyngerdd Tŷ Opera Corc.

MWY GAN IARLA Ó LIONáIRD

Amser dechrau: 5pm

Hyd y perffformiad: 1 awr a 30 munud

Oed: Pob oed. Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.

O dan 30

Gostyngiad o £5

Cynnig tocynnau

Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.

Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.

I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Lock Off, Street Art Operas na Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.