Breuddwyd un dyn o'r GIG, gyda Michael Sheen.
O ymgyrchu yn y meysydd glo i arwain y frwydr i greu’r Gwasanaeth Iechyd, cyfeirir at Aneurin ‘Nye’ Bevan yn aml fel y gwleidydd sydd wedi cael y dylanwad mwyaf ar y DU heb erioed fod yn Brif Weinidog.
Yn wyneb marwolaeth, mae atgofion dyfnaf Nye yn ei arwain ar daith ryfeddol yn ôl drwy ei fywyd; o’i blentyndod i gloddio dan ddaear, Senedd San Steffan a dadleuon gyda Churchill mewn ffantasia Gymreig epig.
"A taut and fluid triumph"
"Throughout it all, Sheen burns with genuine passion"
Michael Sheen (Good Omens) yw Nye Bevan yn y daith swreal ac ysblennydd yma drwy fywyd a gwaddol y dyn a drawsnewidiodd y wladwriaeth les. Mae wedi cael ei hysgrifennu gan y dramodydd a’r sgrin-awdur o Gymru, Tim Price (Teh Internet is Serious Business) ac mae wedi’i chyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig y National Theatre, Rufus Norris (London Road).
Cyd-gynhyrchiad National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru
Cast
Remy Beasley
Matthew Bulgo
Dyfan Dwyfor
Roger Evans
Ross Foley
Jon Furlong
Daniel Hawksford
Bea Holland
Stephanie Jacob
Kezrena James
Tony Jayawardena
Michael Keane
Nicholas Khan
Rebecca Killick
Oliver Llewellyn-Jenkins
Mark Matthews
Rhodri Meilir
Ashley Mejri
Lee Mengo
David Monteith
Mali O’Donnel
Sara Otung
Michael Sheen
Sharon Small
CLODRESTR
Cyfarwyddwr – Rufus Norris
Dylunydd Set – Vicki Mortimer
Dylunydd Gwisgoedd – Kinnetia Isidore
Dylunydd Goleuo – Paule Constable
Cyd-Goreograffwyr – Steven Hoggett, Jess Williams
Cyfansoddwr – Will Stuart
Dylunydd Sain – Donato Wharton
Dylunydd Tafluniad – Jon Driscoll
Cyfarwyddwr Cyswllt – Francesca Goodridge
Castio – Alastair Coomer CDG, Chloe Blake
Llais – Cathleen McCarron, Tamsin Newlands
Dylunydd Set Cyswllt – Matt Hellyer
Dylunydd Gwisgoedd Cyswllt – Zoë Thomas-Webb
Hyfforddwr Tafodiaith – Patricia Logue
Cynhyrchydd – Pádraig Cusack
Diolch
Cefnogir y cynhyrchiad yn y National Theatre gan Sefydliad Teulu Huo a Sefydliad Rosetrees. Cefnogwyd y broses o gomisiynu’r ddrama yma gan Sefydliad Elusennol Syr Peter Shaffer. Mae’r ddrama yma yn dderbynnydd Gwobr Dramâu Newydd Sefydliad Edgerton.
"a valiant and valuable affirmation of the NHS"
Nodwch ei fod yn bosibl bod golygfa gyfyngedig o rywfaint o'r llwyfannu ar gyfer Nye o seddi yng nghefn ac ar ochrau'r cylch uchaf, ac mae tocynnau wedi cael eu prisio yn unol â hynny. Os ydych chi eisoes wedi archebu, gallwch chi ddewis cyfnewid eich seddi (yn amodol ar argaeledd) drwy fewngofnodi i Fy Nghyfrif.
Canllaw oed: 12+ (dim plant dan 2 oed)
Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Amser dechrau:
Llun – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm
Rhybuddion: Mae’r cynhyrchiad yma wedi’i leoli mewn ysbyty ac mae’n cynnwys cyfeiriadau at gyflyrau a thriniaethau meddygol. Mae hefyd yn cynnwys iaith gref.
Weithiau bydd salwch neu wyliau’n codi, felly nid oes modd i gynhyrchwyr warantu bod unrhyw un o’r artistiaid yn ymddangos ym mhob perfformiad.
HYGYRCHEDD
Sain Ddisgrifio + Teithiau Cyffwrdd
Sad 25 Mai, 2.30pm
Maw 28 Mai 7.30pm
Mae Taith Gyffwrdd ar gael 1 awr cyn y perfformiad. Gallwch chi ei hychwanegu at y Fasged ar gam olaf archebu neu ffonio 029 2063 6464. Sain Ddisgrifiad gan Willie Elliott
Perfformiad BSL
Iau 23 Mai 7.30pm
Dehongliad BSL gan Donna Cauchi
Capsiynau
Gwe 24 Mai 7.30pm
Iau 30 Mai 2.30pm
Capsiynau gan Suzanne Biesty
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar Llun 20 Mai (2 bris uchaf)
Aelodaeth
GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o oleuaf £5, Llun – Iau (2 bris uchaf)
Dyddiad talu grwpiau 5 Chwefror 2024
Trefnu ymweliad grŵp
O DAN 16
Gostyngiad o £5 (2 bris uchaf)
16–30
Gostyngiad o £8 (3 bris uchaf)
YSGOLION
£12 — tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl (ffôn 029 2063 6464)
Ar gael Maw – Iau ar seddi penodol
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.
Capsiynau Agored
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Sain Ddisgrifiad
Teithiau Cyffwrdd