Bydd Artistiaid Addawol o Rwydwaith Gwnewch e! yn llenwi Stiwdio Scratch gyda pherfformiadau ac arddangosfeydd!
Cyfle i ddod yn gyfarwydd â thalentau anhygoel Rhwydwaith Gwnewch e! sydd dan arweiniad artistiaid.
Bydd hon yn noson sy’n gyforiog o egin-dalentau creadigol o sir Rhondda Cynon Taf – a thu hwnt! Bydd ein Rhwydwaith o artistiaid gweledol, dawnswyr, actorion, awduron a cherddorion, sydd yng nghamau cyntaf eu gyrfa, yn rhannu eu sgiliau a’u gweithiau newydd yn Stiwdio Scratch, gofod newydd sbon Canolfan Mileniwm Cymru.
- Profi awr o berfformiadau!
- Mwynhau’r gelfyddyd weledol a ddangosir yn y gofod!
- Ymuno â ni am ddiod, a chwrdd â’r artistiaid sydd y tu ôl i’r cyfan!
Bydd y perfformiad yn para am awr ac yn cynnwys detholiad o berfformiadau byr, gan arddangos amryw o artistiaid sy’n gweithio ar draws nifer o wahanol ddisgyblaethau!
Rydyn ni’n wirioneddol hapus o gael cyfle i ddathlu ac arddangos y gwaith gwych sy’n digwydd o fewn ein Rhwydwaith, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru; dewch i ymuno gyda ni – byddem wrth ein bodd!
Gofynnir i chi gyrraedd Stiwdio Scratch, erbyn 7.30pm. Bydd y perfformiad yn cychwyn ar amser. Ymuno â ni am ddiod ar y diwedd!
Os hoffech ragor o wybodaeth cyn trefnu tocynnau, mae croeso i chi gysylltu â ni ar makeitrct@gmail.com
Mae’r tocynnau am ddim! Trefnwch nawr!
Oed: 14+
Rhwydwaith a arweinir gan egin-artistiaid yw Gwnewch e!, a’i nod yw cysylltu pobl greadigol addawol 18–30 oed sy’n byw a/neu yn gweithio yn RhCT â’i gilydd. Mae gan Gwnewch e! 15 o sefydliadau a llawryddion sy’n bartneriaid i ni, yn cynnwys Canolfan Mileniwm Cymru!
Ariennir Gwnewch e! trwy gynllun ‘Cysylltu a Ffynnu’ Cyngor Celfyddydau Cymru.
Trefnir gan Plant y Cymoedd. Rhif elusen: 1074840