Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Galwad Cyhoeddus: Digwyddiadau a pherfformiadau cymunedol 2024-25

Ydych chi angen lleoliad i ddathlu digwyddiad diwylliannol neu greadigol, neu ofod perfformio? Os felly, bydden ni wrth ein boddau’n clywed gennych chi…

Bob blwyddyn rydyn ni’n cynyddu’r cyfleoedd i gymunedau gyflwyno eu digwyddiadau a pherfformiadau eu hunain yn ein hadeilad. Rydych chi’n dweud wrthon ni fod cael lle i rannu storïau, celf, sgwrs, cerddoriaeth a mwy yn hollbwysig i chi a’ch cymuned. Bydden ni’n hoffi darparu lle i gymunedau rannu eu hanes, eu diwylliant a’u storïau cyfunol, ac fe groesawn geisiadau gan bawb, waeth sut rydych chi’n diffinio’ch hun.

Caiff digwyddiadau a pherfformiadau eu rhaglennu drwy ein model cyllidebu cyfranogol, sy’n golygu bod ymgeiswyr yn pleidleisio dros y cais sydd fwyaf addas yn eu barn hwy. Mae hyn i sicrhau bod ein rhaglen wedi’i chreu mewn ffordd ddemocrataidd, gennych chi, y gymuned.

 

Digwyddiadau cymunedol

Eleni rydyn yn rhannu ein mannau Glanfa a Cabaret gyda chi dros tri ddyddiad; mae’r ddau le yn berffaith ar gyfer unrhyw ddigwyddiad ac yn dod yn fyw pan mae cymunedau’n rhaglennu ac yn perfformio ynddynt.

 

Glanfa 

Glanfa yw’r man cyhoeddus mawr yn ne ein hadeilad, ac mae e wedi cynnal sawl digwyddiad a gwledd fawr.

Manylion y cais

Dyddiadau sydd ar gael: naill ai 14 Gorffennaf neu 15 Rhagfyr 2024

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 24 Mai ar gyfer y ddau ddyddiad – byddwn ond yn rhaglennu un digwyddiad

Cyllideb: £3500

Cabaret  

Mae Cabaret yn ofod llai o faint a chlyd, gyda thoiledau neillryw, ystafell gotiau, llwyfan a bar.

Manylion y cais

Dyddiadau sydd ar gael: Dydd Gwener 8 Tachwedd 2024 a 7 Mawrth 2025

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 6 Medi 2024

Cyllideb: £1750 yr un

Mae digwyddiadau Diwali, dathliadau Windrush, Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, Shab e Yalda, gŵyl Wales Affrica a Mis Hanes Bobl Ddu ymhlith y rhai rydyn ni wedi’u comisiynu’n flaenorol.

Perfformiadau Cymunedol 

Rydyn ni wrth ein boddau’n llenwi Glanfa gyda chreadigrwydd ac felly rydyn ni’n gwahodd artistiaid a pherfformwyr i ddod i’n llwyfan i groesawu cynulleidfaoedd i’n hadeilad.

Ar ddydd Sadwrn cyntaf bob mis rydyn ni’n rhaglennu perfformiadau i groesawu cynulleidfaoedd i sioe’r diwrnod hwnnw. Nodwch os gwelwch yn dda mai dim ond perfformiadau sydd heb angen am gefnogaeth dechnegol y mae modd i ni eu rhaglennu yn y gofod hwn.

Dyddiadau posib

1 Mehefin: Nye | Dyddiad cau: 1 Mai

Fe fydd egwyl dros yr haf er mwyn cynnal gweithgareddau sydd wedi’u rhaglennu eisoes.

7 Medi: Grease the Musical | Dyddiad cau: 7 Awst

5 Hydref: Opera Cenedlaethol Cymru | Dyddiad cau: 5 Medi

2 Tachwedd: Wicked  | Dyddiad cau: 2 Medi

7 Rhagfyr:  Hamilton | Dyddiad cau: 7 Tachwedd

4 Ionawr: Hamilton | Dyddiad cau: 2 Rhagfyr

1 Chwefror: Opera Cenedlaethol Cymru | Dyddiad cau: 1 Ionawr

1 Mawrth: Cynhyrchiad i’w gadarnhau | Dyddiad cau 1 Chwefror

Bydd ein timoedd Blaen Tŷ yma i’ch croesawu chi i’r llwyfan ar gyfer y dyddiadau hyn.

Gallwch ddarllen am ein Galwad am gelf Cyhoeddus: Gaeaf blaenorol am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut mae ein cyllidebu cyfranogol yn gweithio, a darllenwch ragor am ein cyfleoedd creadigol.

Sut i wneud cais

Rydyn ni'n croesawu ceisiadau gan artistiaid, unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau celfyddydol Cymreig neu sy'n gweithio yng Nghymru. 

Gofynnwn i chi anfon:

  • Disgrifiad o’ch gwaith ar ffurf ysgrifenedig, fideo neu sain (Ni ddylai disgrifiadau ysgrifenedig fod yn hirach nag un ochr papur A4)
  • Enghreifftiau o waith / digwyddiadau blaenorol
  • Dolenni i’ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, os oes gennych chi rai, neu ychydig o wybodaeth am y math o waith yr ydych chi’n ei wneud  

Byddwn yn rhannu’r wybodaeth yma gydag ymgeiswyr eraill, felly gofynnwn i chi wneud yn siŵr eich bod yn fodlon â hyn, neu cysylltwch â ni i drafod.

Os hoffech drafod ymhellach neu os hoffech wybod mwy, cysylltwch â Gemma drwy e-bostio cymuned@wmc.org.uk