Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Galwad cyhoeddus: Gweithdai Creadigol 2024-25

Rydyn ni’n chwilio am unigolion neu sefydliadau i gynnal gweithdai creadigol hwyliog sy’n pontio’r cenedlaethau, ar gyfer Lolfa, ein man cymunedol.

Rydyn ni’n chwilio am ddau weithdy 3–4 awr o hyd y gellir fod yn gwbl agored neu ag archebu lle, yn dibynnu ar y sesiwn. Gellir rhaglennu’r gweithdai unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. 

Mae cyllideb o £700 ar gyfer y ddwy sesiwn, i gynnwys cost deunyddiau.

Hoffem i’r sesiynau bontio’r cenedlaethau a bod yn agored i bawb – gallai gweithgareddau gynnwys, er enghraifft, gwniadwaith a gwau, drymio, canu, barddoniaeth pync, neu grefftau’r Pasg.

Caiff y gweithdai eu rhaglennu drwy ein model cyllidebu cyfranogol, sy’n golygu bod ymgeiswyr yn pleidleisio dros y cais sy’n fwyaf addas yn eu barn hwy. Mae hyn i sicrhau bod ein rhaglen wedi’i chreu mewn ffordd ddemocrataidd, gennych chi, y gymuned.

Gallwch ddarllen am ein Galwad am gelf Cyhoeddus: Gaeaf blaenorol am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut mae ein cyllidebu cyfranogol yn gweithio, a darllenwch ragor am ein cyfleoedd creadigol.

Sut i wneud cais

Rydyn ni'n croesawu ceisiadau gan artistiaid, unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau celfyddydol Cymreig neu sy'n gweithio yng Nghymru. 

Gofynnwn i chi anfon:

  • Disgrifiad o’ch gwaith ar ffurf ysgrifenedig, fideo neu sain (Ni ddylai disgrifiadau ysgrifenedig fod yn hirach nag un ochr papur A4)
  • Enghreifftiau o waith / digwyddiadau blaenorol
  • Dolenni i’ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, os oes gennych chi rai, neu ychydig o wybodaeth am y math o waith yr ydych chi’n ei wneud  

Byddwn yn rhannu’r wybodaeth yma gydag ymgeiswyr eraill, felly gofynnwn i chi wneud yn siŵr eich bod yn fodlon â hyn, neu cysylltwch â ni i drafod.

 

Os hoffech drafod ymhellach neu os hoffech wybod mwy, cysylltwch â Gemma drwy e-bostio cymuned@wmc.org.uk