Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cyflwyno ein rhaglen ieuenctid Platfform newydd cyffrous: Gwneuthurwyr Theatr

Rydyn ni wrth ein bodd i gyhoeddi lansiad ein menter ddiweddaraf, Gwneuthurwyr Theatr, a fydd yn galluogi pobl ifanc 1425 oed i dorri i mewn i’r sector creadigol.

P'un a wyt ti’n breuddwydio am ysgrifennu sgriptiau cyfareddol neu ddod â chymeriadau'n fyw ar y llwyfan, mae'r rhaglen yma wedi'i chynllunio i feithrin dy dalentau a dechrau dy daith yn y byd creadigol.   

Dyma Stacey Brown, un o’n cynhyrchwyr Platfform, sydd yma i roi rhagor o wybodaeth am Wneuthurwyr Theatr!  

Mae’r cwrs rhad ac am ddim newydd yma yn nodi’r esblygiad nesaf yn y cyrsiau addysg theatr a pherfformio rydyn ni’n eu cynnig. Nid yn unig rydyn ni’n cyflwyno theatr o’r radd flaenaf, rydyn ni hefyd yn ymroddedig i gefnogi'r genhedlaeth nesaf o greawdwyr theatr. Ein nod yw cynnig y cyfleoedd yma i bobl ifanc, waeth beth fo'u profiad neu gefndir. Dyna pam mae ein cyrsiau Gwneuthurwyr Theatr yn rhad ac am ddim. 

COFRESTRA NAWR: Gwneuthurwyr Theatr: Ysgrifennu ar gyfer Theatr 

 dych chi'n berson greadigol gyda stori i'w hadrodd? Dyma dy gyfle i ymuno ag ystafell ysgrifennu a chychwyn ar daith chwe wythnos i archwilio ysgrifennu ar gyfer theatr. O grefftio straeon cymhellol i ddatblygu cymeriadau cofiadwy a monologau pwerus, bydd ein rhaglen Ysgrifennu ar gyfer Theatr yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnat ti i wneud dy farc ar y llwyfan. Wyt ti’n barod i ysgrifennu dy stori dy hun? Cofrestra ar gyfer Gwneuthurwyr Theatr a gad i dy greadigrwydd gamu ar y llwyfan! Mae'n rhad ac am ddim!  

EIN CYRSIAU PLATFFORM

Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig llwyfan i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol.

Caiff y gweithgaredd yma ei ariannu gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.