Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Defnyddio Bydoedd Rhithwir I Newid Y Byd

Sgwrs gydag Antonia Forster – Cyfarwyddwr a Chynhyrchydd yr LGBTQ+ VR Museum

Ystafell Gyfarfod 6

14 Rhagfyr 2022

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Defnyddio Bydoedd Rhithwir I Newid Y Byd {{::on_sale_date.label}} Ystafell Gyfarfod 6 MM/DD/YYYY 15 event-1564

Defnyddio Bydoedd Rhithwir I Newid Y Byd

Sgwrs gydag Antonia Forster – Cyfarwyddwr a Chynhyrchydd yr LGBTQ+ VR Museum

14 Rhagfyr 2022

Ystafell Gyfarfod 6

Pan ddaeth Antonia Forster (Uwch-arbenigwr Technegol VR/AR yn Unity) allan i’w theulu fel person LHDTC+, dioddefodd adlach ymosodol.

Gan fyfyrio ar sut y gellid atal hyn, gwnaeth hi ddarganfod bod diffyg cysylltiad â straeon cwiar yn rhagfynegydd cryf o homoffobia, a chreodd brosiect realiti rhithwir arloesol i fynd i’r afael â hyn. Y canlyniad yw amgueddfa VR LHDTC+ cyntaf y byd, profiad realiti rhithwir arobryn, sy’n dathlu straeon a gwaith celf pobl LHDTC+ drwy ddiogelu hanesion personol cwiar.

Ymunwch ag Antonia wrth iddo rannu ei thaith bersonol fel codydd hunanaddysgiedig (heb radd Cyfrifiadureg); yr adnoddau a ddefnyddiodd i adeiladu amgueddfa VR; a’r gwersi bywyd a ddysgodd yn ystod y broses.

Y SIARADWR

Mae Antonia (hi) yn Uwch-arbenigwr Technegol VR/AR yn Unity, yn ymgynghorydd Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant arobryn ac yn brif siaradwr rhyngwladol gyda degawd o brofiad. Gan gyfuno ei gwybodaeth codio hunanaddysgiedig â’i sgiliau fel siaradwr TEDx, mae Antonia yn eiriolwr brwdfrydig dros fenywod, pobl LHDTC+ a lleisiau a ymyleiddiwyd yn y byd technoleg. Mae ei chleientiaid yn cynnwys NASA, Stanford University, Sky TV, Yahoo!, AstraZeneca, y Science Museum, Kew Gardens, London Pride, Bristol Pride a llawer mwy.

Cyrhaeddodd Antonia’r rhestr fer ar gyfer Gwobr John Maddox Nature, gwobr “Advocate of the Year” Women in IT ac enillodd wobr Breaking Barriers YTKO am ei heiriolaeth effeithiol dros fenywod yn y byd technoleg. Hi yw Cyfarwyddwr a Chynhyrchydd amgueddfa LHDTC+ cyntaf y byd, ac enillodd y wobr New Voices yng Ngŵyl Ffilmiau Tribeca.

@AntoniaRForster ar Twitter
@AntoniaRForster ar Instagram
Antonia Forster ar LinkedIn

Amser dechrau: 1pm

Hyd y sgwrs: 1 awr (sgwrs o 30 munud ac yna sesiwn holi ac ateb)

Lleoliad: Ystafell Gyfarfod 6 (lefel 2)

Cyflwynir yn

Ystafell Gyfarfod 6