Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Dylunio Gwisgoedd i'r Theatr a Ffilm

Get creative for free

Canolfan Mileniwm Cymru

8 Tachwedd – 13 Rhagfyr 2022

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Dylunio Gwisgoedd i'r Theatr a Ffilm {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-1567

Dylunio Gwisgoedd i'r Theatr a Ffilm

Get creative for free

8 Tachwedd – 13 Rhagfyr 2022

Canolfan Mileniwm Cymru

Eisiau gyrfa ym maes gwisgoedd? Rhowch gynnig ar ddylunio gwisgoedd cyfnod a chyfoes, o'r cyfeiriadau cymeriad cyntaf hyd at gynllun gwisgoedd gorffenedig.

Ar y cwrs hwn byddwch yn dysgu sut i ddylunio ar gyfer theatr a ffilm, darganfod sut mae'r diwydiant yn gweithio a darganfod y llwybrau gorau i mewn iddo.

Gyda 15 mlynedd o brofiad dylunio gwisgoedd o dan ei gwregys, bydd y dylunydd gwisgoedd llawrydd Hannah Wolfe wrth law i'ch tywys. Mae gan Hannah gyfoeth o brofiad ac mae wedi cynllunio ar gyfer opera, theatr, pantomeim, theatr gerdd a ffilm.

I BWY MAE’R RHAGLEN?

Mae’r cyrsiau’n agored i unrhyw un 14 – 25 oed o bob cefndir ac o bob rhan o Gymru.

PRYD?

Bob dydd Mawrth, 4.30pm – 6.30pm dros chwe wythnos yn dechrau 8 Tachwedd 2022.

Mae chwe sesiwn i’r cwrs yma, ar y dyddiadau canlynol: 8 Tachwedd, 15 Tachwedd, 22 Tachwedd, 29 Tachwedd, 6 Rhagfyr, a 13 Rhagfyr felly bydd angen i chi fynd i bob un. Ychwanegwch un tocyn i’ch basged er mwyn archebu lle ar y cwrs cyfan.

AM EIN CYRSIAU LLAIS CREADIGOL

Mae Llais Creadigol yn rhaglen unigryw sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc archwilio’u diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.

Ariennir y gweithgaredd hwn gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru