Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
A pile of multi-sided dice

Gemau Bwrdd Chwarae Rôl

Byddwch yn greadigol am ddim

Canolfan Mileniwm Cymru

15 Medi – 20 Hydref 2022

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Gemau Bwrdd Chwarae Rôl {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-1528

Gemau Bwrdd Chwarae Rôl

Byddwch yn greadigol am ddim

15 Medi – 20 Hydref 2022

Canolfan Mileniwm Cymru

Cymerwch eich cam cyntaf fel dylunydd gemau, adeiladwr byd, a pherfformiwr dychmygus, yn y cwrs cyflwyno hwn ar gemau bwrdd chwarae rôl.

Cymerwch eich cam cyntaf fel dylunydd gemau, adeiladwr byd, a pherfformiwr dychmygus, yn y cwrs cyflwyno hwn ar gemau bwrdd chwarae rôl.

Darganfyddwch sut y gall chwarae rôl feithrin eich hyder, eich creadigrwydd, eich llythrennedd a'ch sgiliau perfformio. Yn cael ei redeg gan y creadigwr digidol, dylunydd gemau a hwylusydd o Gymru, Tom Burmeister o PlayFrame.

Ydych chi o hyd wedi bod â diddordeb mewn rhoi cynnig ar gêm chwarae rôl ond heb wybod ble i ddechrau? Ydych chi am redeg eich gemau eich hun fel Meistr Gemau? Ydych chi'n awyddus i wybod am y sîn RPG indie ffyniannus sydd â fawr dim rheolau?

Dros chwe wythnos byddwch yn darganfod ac yn chwarae gwahanol systemau gemau, yn creu cymeriadau, yn datblygu ac yn prawf-chwarae cyfrangau gwefreiddiol, ac yn dod o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch i'ch rhoi ar ben ffordd yn yr arfer creadigol anhygoel hwn.

P'un a ydych chi'n hollol newydd i'r sîn neu'n adroddwr straeon profiadol, yn berfformiwr neu'n ddylunydd gemau uchelgeisiol, mae croeso i bawb wrth ein bwrdd.

I BWY MAE’R RHAGLEN?

Mae’r cyrsiau’n agored i unrhyw un 14 – 25 oed o bob cefndir ac o bob rhan o Gymru.

PRYD?

Bob dydd Iau, 4.30pm – 6.30pm dros chwe wythnos, yn cychwyn 15 Medi 2022.

Unwaith i chi gofrestru byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth am y cwrs.

Cynhelir chwe sesiwn ar y dyddiadau canlynol: 15 Medi, 22 Medi, 29 Medi, 6 Hydref, 13 Hydref a 20 Hydref, a bydd angen i chi fynychu bob un. Ychwanegwch un tocyn i'ch basged i archebu'ch lle ar y cwrs cyfan.

Cyfyngiad oedran: 14 – 25 oed

YNGLYN Â’N CYRSIAU LLAIS CREADIGOL

Mae Llais Creadigol yn rhaglen unigryw chwe wythnos o hyd sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc archwilio’i diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.

Ariennir y gweithgaredd hwn gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru