Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Noson Gefnogwyr The Boy With Two Hearts

National Theatre

13 Hydref 2022

Noson Gefnogwyr The Boy With Two Hearts

13 Hydref 2022

National Theatre

Gwahoddir aelodau Partner Awen, Cylch y Cadeirydd a chefnogwyr arbennig i ymuno â ni ddydd Iau 13 Hydref i ddathlu bod stori ryfeddol o Gymru a chynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru, The Boy with Two Hearts, yn dod i Lundain yn y National Theatre.

Gall gwesteion fwynhau derbyniad â diodydd a sesiwn holi ac ateb arbennig gyda Hamed Amiri, awdur y llyfr.

Mae The Boy with Two Hearts yn arddangos ymrwymiad Canolfan Mileniwm Cymru i gynhyrchu gwaith arloesol a chyfoes sy’n diddanu ac yn herio ein cynulleidfaoedd, gan adrodd straeon newydd a rhoi llwyfan i leisiau newydd heb gynrychiolaeth ddigonol, a dathlu holl amrywiaeth Cymru.

Bob dydd mae ein timau yn cyd-gynhyrchu gwaith gyda phobl greadigol eraill, grwpiau cymunedol a phobl ifanc, gan fwyhau eu lleisiau ar lwyfan byd-eang. Mae nifer o gynyrchiadau yn cael eu datblygu a gall artistiaid ifanc hefyd gymryd rhan yn un o’n cyrsiau hyfforddi Llais Creadigol chwe wythnos, y mae pob un ohonynt yn canolbwyntio ar faes creadigol gwahanol, o’r llwyfan, radio a ffilm i chwarae gemau fideo a dylunio setiau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad hwn, anfonwch e-bost i supporters@wmc.org.uk

Cyflwynir yn

National Theatre