Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn cynnal dau ddigwyddiad Aladdin ar gyfer ein haelodau gwerthfawr. Gwahoddir aelodau Partner a Phartner Awen i ymuno â ni ddydd Sul 10 Rhagfyr yn Ystafell Preseli, a gall aelodau Ffrind+ ymuno â ni ddydd Sul 17 Rhagfyr yn Copr.
Gallwch chi fwynhau prynhawn yn llawn…
Hud Gwefreiddiol: Bydd ein dewin yn consurio rhyfeddodau drwy gydol y digwyddiad.
Coctels Arbennig: Difyrrwch eich synhwyrau gyda’n coctel Aladdin.
Uwchraddiwch eich Aelodaeth neu Ymaelodwch Heddiw
Peidiwch â cholli’r digwyddiad yma! Os nad ydych chi eisoes yn aelod, nawr yw’r amser perffaith i ymaelodi. Gallwch chi uwchraddio eich aelodaeth neu gofrestru fel aelod Ffrind+, Partner neu Bartner Awen heddiw i sicrhau eich lle yn un o’r digwyddiadau arbennig yma.
Cynnig Aderyn Cynnar
Ymaelodwch cyn dydd Sul 12 Tachwedd i gael y buddion ychwanegol canlynol*:
- Gostyngiad o £5 ar seddi penodol
- Gostyngiad o £5 ar nwyddau Aladdin
Dyddiad cau: Anfonwch RSVP erbyn dydd Gwener 1 Rhagfyr.
Nodwch fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig, felly archebwch heddiw!
Yn ogystal â digwyddiadau arbennig, gall aelodau fwynhau nifer o fuddion eraill drwy gydol y flwyddyn gan gynnwys blaenoriaeth wrth archebu a mynediad i’n lolfa arbennig i aelodau.
Yn bwysicaf oll, mae ein cynlluniau aelodaeth hefyd yn helpu i gefnogi ein gwaith creadigol a chymunedol sy’n newid bywydau, sy’n golygu y gallwch chi ddod yn nes at yr hyn rydych chi’n ei garu tra eich bod chi’n ein helpu ni i wneud mwy.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad yma, e-bostiwch cefnogwyr@wmc.org.uk.
Mae croeso i aelodau ddod â gwesteion i’r digwyddiad yma; un gwestai ar gyfer aelodau unigol a dau ar gyfer aelodau ar y cyd. Yn dibynnu ar faint o bobl sy’n dod, mae’n bosibl y gallwn groesawu gwesteion pellach am rodd awgrymedig o £10. Ffoniwch ni neu anfonwch e-bost i drafod.
*Mae Telerau ac Amodau yn gymwys: Gostyngiad o £5 ar seddi penodol ar gyfer perfformiad dydd Sul 10 Rhagfyr am 6pm i aelodau Partner a Phartner Awen a pherfformiad dydd Sul 17 Rhagfyr am 6pm i aelodau Ffrind+, yn amodol ar argaeledd. Mae’r gostyngiad o £5 ar nwyddau Disney’s Aladdin yn ddilys ar wariant o £30 o leiaf ar ddyddiad y perfformiad yn unig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Ddim yn gymwys gydag unrhyw gynnig, gostyngiad na hysbyseb arall. Ni ellir trosglwyddo’r cynnig na’i gyfnewid am arian parod. Mae ymddangosiad y dewin yn amodol ar salwch personol ac unrhyw amgylchiadau annisgwyl. Mae’r cynnig yn ddilys tan 12 Tachwedd 2023.