Dewch i weld arddangosfa wych o waith ffotograffig sy’n dangos prosiectau arbennig dysgwyr cyrsiau FDa a BA Ffotograffiaeth yng Ngholeg Gwent.
Roedd arddangosfa diwedd y flwyddyn yn gyfle i’r myfyrwyr ddod at ei gilydd, cynllunio a chreu sbectacl gweledol o’u gwaith gorau o’r flwyddyn academaidd.
Mae gan yr adran ffotograffiaeth yng Nghampws Crosskeys yng Ngholeg Gwent 20 mlynedd o brofiad o gyflwyno cyrsiau Lefel 4, 5 a 6. Mae’r cyrsiau yn galluogi dysgwyr i archwilio a datblygu arbenigedd mewn ffotograffiaeth er mwyn troi eu brwdfrydedd a’u creadigrwydd yn llwybr gyrfa i fod yn ffotograffydd llwyddiannus.
Mae’r dysgwyr wedi gwneud y mwyaf o’r cyfle i fod yn rhan o’r arddangosfa yma. Da iawn i bawb.