Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
A camera filming a guitarist

Creu Eich Ffilm Byr Eich Hun

Cyfle creadigol am ddim

Canolfan Mileniwm Cymru

22 – 23 Awst 2023

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Creu Eich Ffilm Byr Eich Hun {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-1864

Creu Eich Ffilm Byr Eich Hun

Cyfle creadigol am ddim

22 – 23 Awst 2023

Canolfan Mileniwm Cymru

Bydd y cwrs dau ddiwrnod yma yn eich addysgu chi sut i greu ffilm neu fideo byr, o syniad sylfaenol am stori i ffilm derfynol wedi’i golygu. 

P’un a ydych chi’n frwdfrydig dros ffilmiau neu’n ddechreuwr pur, mae’r cwrs yma wedi’i ddylunio i roi’r holl gefnogaeth sydd ei hangen arnoch. 

Byddwch chi’n edrych ar wahanol fathau o ffilmiau a sut maen nhw’n adrodd eu straeon. Byddwch chi’n dysgu sut i strwythuro stori, trefnu eich saethiad a gweithio fel tîm creu ffilmiau. Byddwch chi’n ymarfer gosod saethiadau gan ddefnyddio lensiau gwahanol, gan gynllunio a ffilmio dilyniannau a golygu eich saethiadau. Byddwch chi hefyd yn archwilio sain ffilm, o ddefnyddio microffonau i greu trac sain o effeithiau. 

Ar Ddiwrnod 2 byddwch chi’n cydweithio i greu ffilm fer yn seiliedig ar eich syniadau eich hun. Byddwch chi’n creu sgript a bwrdd darlunio, yn ffilmio eich saethiadau a’u golygu. Yna byddwch chi’n addasu’r sain, yn ychwanegu teitlau a chlodrestr ac yn allgludo eich ffilm derfynol fel ffeil fideo. 

Caiff y cwrs yma ei redeg gan Tom Barrance sy’n addysgu pobl o bob oed i greu ffilmiau. Mae wedi rhedeg gweithdai a hyfforddiant ar gyfer grwpiau ieuenctid, ysgolion, busnesau, prifysgolion ac elusennau. Mae’n rhedeg y wefan learnaboutfilm.com i ddechreuwyr creu ffilmiau ac yn ddiweddar cyhoeddodd yr elyfr Start Marking Movies am sut i greu ffilmiau a fideos byr.  

I BWY MAE’R RHAGLEN?

Mae’r cyrsiau’n agored i unrhyw un 14 – 19 oed o bob cefndir ac o bob rhan.

PRYD?

22–23 Awst, 10.30am–5pm bob dydd.

Os yw'r cwrs hwn wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni mewn cysylltiad os bydd lle ar gael.

EIN CYRSIAU LLAIS CREADIGOL

Rhaglen unigryw yw Llais Creadigol sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc archwilio’u diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.

Ariennir y gweithgaredd hwn gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru