Ydych chi’n 14–18 oed ac a oes diddordeb gennych mewn dysgu sut i saethu eich fideo cerddoriaeth eich hun?
Dros gyfres o weithdai creu ffilmiau dynamig a chyflym, byddwch chi’n gweithio drwy hanfodion saethu fideos cerddoriaeth creadigol. Gosod saethiad, golygu, goleuo, awgrymiadau cyn-gynhyrchu – caiff pob agwedd ar y broses greadigol o saethu fideos cerddoriaeth ei gwmpasu. Byddwch chi’n cael profiad ymarferol gydag offer gwerthfawr ac yn cael cyfle i roi eich stamp creadigol eich hun ar y fideos terfynol.
Caiff y cwrs byr hwn ei arwain gan y fideograffydd Jamie Panton sydd wedi dysgu wrth weithio yn y diwydiant cerddoriaeth, a bydd yn egluro popeth sydd angen i chi ei wybod er mwyn dechrau saethu eich fideos cerddoriaeth eich hunain.
I newydd-ddyfodiaid sydd am ddysgu mwy, bydd y sesiynau hyn yn rhoi’r adnoddau i chi greu fideo cerddoriaeth gwych!
I BWY MAE’R RHAGLEN?
Mae’r cyrsiau’n agored i unrhyw un 14 – 18 oed o bob cefndir ac o bob rhan o Gymru.
PRYD?
7–10 Awst, 12pm–6pm bob dydd.
Os yw'r cwrs hwn wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni mewn cysylltiad os bydd lle ar gael.
EIN CYRSIAU LLAIS CREADIGOL
Rhaglen unigryw yw Llais Creadigol sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc archwilio’u diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.
Ariennir y gweithgaredd hwn gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.