Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cŵm Rag: Royal Welsh Ho

Cabaret

22 Gorffennaf 2023

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Cŵm Rag: Royal Welsh Ho {{::on_sale_date.label}} Cabaret MM/DD/YYYY 15 event-1790

Cabaret

Cŵm Rag: Royal Welsh Ho

22 Gorffennaf 2023

Cabaret

Trwsiwch eich het, smwddiwch eich siôl. Ry’ ni am gael parti. 

Yn dilyn eu sioe Cabaret a werthodd allan ym mis Mawrth, mae sêr y llwyfan a’r sgrin, Cŵm Rag, yn dod adre – eto!

Chi’n iawn ferched, mae eich hoff grŵp o frolwyr cwiar o Gymru yn cymryd drosodd ein gofod Cabaret ar gyfer sioe drag ysblennydd am un noson yn unig!

Teyrnged drwy ganeuon a dawnsio i uchafbwynt calendr amaethyddol Prydain yw Royal Welsh Ho.

Byddan nhw’n dod ag ychydig o ddiwylliant i’r byd amaeth ac yn cyflwyno cefn gwlad pur. Ydych chi erioed wedi gweld dafad mewn stiletos 7 modfedd o’r blaen? Do’n i ddim yn meddwl hynny cariad.

Gwaith celf gan Mythsntits

Giamocs newydd yn y buarth gan Freninesau Cŵm Rag:

Oberon White
Bopa Rhys
Lasagne Sheets
Cece
Mx Alleyway

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

reels you into the chaotic beauty from the very first moan into the microphone

Amser dechrau: 8.30pm, drysau 8pm

Oed: 18+

Rhybuddion: Iaith gref, noethni, goleuadau sy'n fflachio a synau uchel.

Iaith: Mae'r sioe yma yn ddwyieithog; caiff ei pherfformio yn Gymraeg ac yn Saesneg.

IECHYD DA!

Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Cabaret