Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
A group of people dancing at carnival

Dylunio Gwisgoedd

Cyfle creadigol am ddim

Canolfan Mileniwm Cymru

30 – 31 Hydref 2023

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Dylunio Gwisgoedd {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-1929

Dylunio Gwisgoedd

Cyfle creadigol am ddim

30 – 31 Hydref 2023

Canolfan Mileniwm Cymru

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa ym maes Gwisgoedd? Ymunwch â ni ar gyfer cyflwyniad dau ddiwrnod rhad ac am ddim i Ddylunio Gwisgoedd.

Yn ystod y ddau ddiwrnod, byddwch chi’n dysgu amrywiaeth o dechnegau creadigol ar gyfer dylunio gwisgoedd i’r llwyfan a’r sgrin, ac ar ddiwedd y cwrs byddwch chi wedi creu eich dyluniadau dychmygus eich hunain gan ddefnyddio cymeriadau ac arddulliau sy’n unigryw i chi.

Bydd y cwrs yn edrych ar rai o’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn ddylunydd gwisgoedd ac yn eich arwain drwy brosesau creadigol fel trosolwg o’r cymeriadau, datblygiad 3D o syniadau ar bapur, darlunio gwisgoedd ac archwilio deunyddiau gwahanol. Mae’r cwrs yma hefyd yn edrych ar lwybrau gyrfa posibl a hyfforddiant pellach ym maes gwisgoedd, neu os yw dylunio gwisgoedd yn rhywbeth sy’n gwbl newydd i chi, mae hefyd yn gyfle i ddod a rhoi cynnig arni!

Arweinydd y cwrs

Mae Sandra yn ddylunydd a chrëwr theatr sy’n byw yng Nghaerdydd a gwblhaodd MA mewn Dylunio ar gyfer Perfformiad yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2017. Cyn symud i Gymru, bu Sandra’n gweithio fel gwneuthurwr propiau yn Madame Tussauds Wax Figure Productions ac mae hefyd wedi creu gwisgoedd a phropiau pwrpasol ar gyfer cynyrchiadau yn y West End yn Llundain. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae Sandra wedi gweithio gyda chwmnïau fel Canolfan Mileniwm Cymru, National Theatre Wales a Theatr y Sherman ac mae’n cynhyrfu fwyaf pan mae’n creu cymeriadau sy’n rhyfeddol neu anghyffredin.

AR GYFER PWY MAE’R CWRS?

Mae ein cyrsiau ar gael i unrhyw un rhwng 14 ac 25 oed o bob cefndir ledled Cymru, ac maen nhw ar lefel mynediad – wedi’u hanelu at y chwilfrydig, dechreuwyr, neu bobl ifanc sy’n dymuno adnewyddu eu sgiliau.

Er mwyn cadw lle ar ein cwrs am ddim, cofrestrwch.

PRYD?

30 – 31 Awst, 10am – 4pm bob dydd.

AM EIN CYRSIAU LLAIS CREADIGOL

Mae Llais Creadigol yn rhaglen unigryw sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc archwilio’u diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.

Ariennir y gweithgaredd hwn gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru