Ymunwch â ni am noson anhygoel sy’n arddangos amrywiaeth o ddoniau boilésg, wedi’i churadu a’i chyflwyno gan Joshua Hubbard gyda’r prif westai arbennig Tom Harlow.
Chanteur, MC a sioelanc rhyngwladol sydd wedi ennill gwobrau (Miss Bwrlésg yr Alban 2019, Brenin Boilésg Amsterdam 2016) yw Tom Harlow, sy’n byw yn Glasgow. Tom yw Miss Bwrlésg yr Alban ar hyn o bryd ac mae’n teithio’r byd yn swyno cynulleidfaoedd ac yn dwyn calonnau a diodydd lle bynnag mae’n mynd.
Yn ymuno â Tom ar y noson wych yma o Foilesgwyr bydd...
Mimi the Most, perfformiwr Glamazonaidd sy'n fwyaf adnabyddus am yr #escandalo! o orfod gadael y Bale Brenhinol o dan gwmwl ar ôl i sibrydion honedig ei bod hi’n ferch ddrwg iawn ledaenu yn y cwmni (ond mae’n siŵr mai ambell a*t genfigennus oedd yn gyfrifol am hynny).
BRENHINIAETH yw popeth i Rudy. Mae’n ymgorfforiad o dduwdod sy'n cyflwyno profiad yn y gofod lle mae egni gwrywaidd a benywaidd yn cwrdd, a'r harddwch sydd yn hynny. Yn cynnig clamp o gorff anneuaidd, a pherfformiadau sy'n cyfleu ysbryd o ryddid, cnawdolrwydd a grym.
Artist perfformio trawsryweddol, brenin drag a lleisydd o bentref hoyw Manceinion yw Wolfy. Fe allech chi ddod ar ei draws yn teithio o gwmpas gwledydd Prydain ac Ewrop yn ei fan, ond fel arfer mae'n byw ar ei orsedd fel brenin Canal St.
Mae Deeva D yn cyflwyno cymysgedd eclectig o ddigywilydd-dra, rhywioldeb a sbeis, drwy gelfyddyd bwrlésg. Rydych chi’n siŵr o fwynhau, gyda’r addewid o symudiadau dawnsio llyfn, shimis brestiau blewog a stripio os byddwch chi’n lwcus. Dydy Bearlésg erioed wedi edrych mor dda.
Joshua Hubbard – coreograffydd, cyfarwyddwr, mynnwr sylw, ac erbyn hyn, cynhyrchydd. Wedi gweithio gyda phobl fel Elton John, Charli XCX, Roisin Murphy, Years and Years, Hercules and Love affair, a Danny Beard.
Amser dechrau: 8.30pm, 7.30pm drysau
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iath gref, noethni
IECHYD DA!
Drysau ar agor 1 awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.