Mae'n fis Tachwedd yn y ffatri humbug, ac mae gweithwyr Cwmni Danteithion Scrooge & Cratchit yn gweithio'n galed yn y rhuthr olaf at y Nadolig.
Fodd bynnag, mae pennaeth a pherchennog y ffatri, Tim Cratchit, wedi troi'n llym ac yn gwirioni â gwaith, ar ôl anghofio'r gwersi a roddwyd iddo gan ei hen ffrind a'i fentor, Ebenezer Scrooge.
Un noson, mae amrywiaeth liwgar o ysbrydion yn ymweld â Tim ar genhadaeth i newid ei bersbectif. A fydd taith drwy'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol yn llwyddo i ddod â llawenydd yn ôl i fywyd Tim?
Wedi'i berfformio gan gast cymysg o actorion anabl a rhai nad ydynt yn anabl, mae HUMBUG! yn ddilyniant hwyliog a myfyriol i chwedl glasurol Charles Dickens, A Christmas Carol.
Amser dechrau:
Iau – Sad 7pm
Sad 3pm
Hyd y perfformiad: 1 awr
Canllaw oed: 5+
Hygyrchedd:
Bydd sain ddisgrifiad ar gael ym mhob perfformiad.
Bydd teithiau cyffwrdd ar gael ar gais wrth archebu. Cysylltwch â caitlin.rickard@hijinx.org.uk
Bydd BSL integredig gan Sami Dunn ym mhob perfformiad.
BABANOD AR LINIAU
Rhad ac am ddim – archebwch le gan ddenfyddio'r opsiwn tocyn 'Safonol a babi'. Ar gael i blant o dan 2 oed gydag oedolyn yn eu gwarchod.
CYNNIG I BOBL O DAN 16
£6
CYNNIG I GRWPIAU
Gostyngiad o £5 i grwpiau 10+. Trefnu ymweliad grŵp.
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Sain Ddisgrifiad
Teithiau Cyffwrdd