Howdi! Mae Dolly Parton wedi cael ei chlonio – achos roedd angen mwy o bositifrwydd, cariad a llawenydd ar y byd. Dwbwl yr hwyl, dwbwl y drafferth a dwbwl y glam!
Ymunwch â’r Double Dollys am noson o gomedi, dawnsio llinell a chaneuon Dolly Parton yn fyw.
Dewch â’ch ffrindiau, neu’ch Mam-gu, i ddawnsio a mwynhau’r noson allan gynhwysol yma (ond does dim croeso i Jolene).
Ewch ati i wisgo i fyny fel Dolly neu fel Cowboi os gallwch chi, achos mae gwobrau mawreddog i'w hennill.
Dyma'r lle i fod ar ôl i chi orffen eich ‘9 to 5’, felly disgleiriwch fel ‘diamond in a rhinestone world’, dewch am hwyl!
Rhowch i ni îîî-how!
Cynhyrchiad dawnsio llinell newydd hyfryd gyda Lisa Bond a Tracey Collins. Mae Tracey yn dychwelyd i fyd Cabaret yn dilyn sioeau bingo fel Audrey Heartburn, Elvis Lesley a Shell Suit Cher. Rydyn ni wrth ein boddau!
Amser dechrau: 8.30pm, drysau 7.30pm
Oed: 16+
Rhybuddion: Iaith gref a goleuadau sy'n fflachio
IECHYD DA!
Drysau ar agor 1 awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.