Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Boylesque performer John Celestus striking a pose in a black corset and gloves

May Queens: Fierce B!tches with Bells on!

Cardiff Cabaret Club

Cabaret

20 Mai 2023

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London May Queens: Fierce B!tches with Bells on! {{::on_sale_date.label}} Cabaret MM/DD/YYYY 15 event-1718

Cabaret

May Queens: Fierce B!tches with Bells on!

Cardiff Cabaret Club

20 Mai 2023

Cabaret

Gŵyl amgen gyda FooFooLaBelle a Chlwb Cabare Caerdydd!

Breninesau Mai hardd, dawnswyr morys rhywiol, a mwy o ruban na phymps dawnswraig bale. Ymunwch â ni i ddathlu’r diwrnod arbennig yma, a gwylio ein perfformwyr yn rhoi’r polyn ym Mai.

Wedi’i gyflwyno gan anwylyd tywyllaf y byd Cabare, John Celestus.

Gyda Smashlyn Monroe, Oola Pearl, Bonita Boudoir, Dixie Allure, FooFoo LaBelle a’r dawnswyr o Glwb Cabare Caerdydd. Mwy i’w cadarnhau.

Paratowch am eich hoff gemau a gwobrau o Ffair y Pentre!

John Celestus

Mae anwylyd tywyllaf y byd Cabaret, John Celestus, yn cloi sioeau yn rhyngwladol. Mae ei angerdd am ddiddanu ac estheteg yn creu perfformiwr aml-fedrus ym maes MCio, boilésg, ystumio, Charleston a drag, ac mae’n barod i gipio sylw’r gynulleidfa anoddaf hyd yn oed.

Fel y perfformiwr boilésg Groegaidd cyntaf erioed, mae wedi ymddangos ar lwyfannau ledled Ewrop ac America. Mae wedi perfformio yng Ngwlad Groeg, Awstria, Sweden, Gwlad Belg, yr Almaen, Gwlad Pwyl, yr Eidal, yr Iseldiroedd a mwy.

Bonita Boudoir

Mae Bonita Boudoir yn hanu o Awstralia bell, ond mae’n galw Cymru’n gartref iddi ers 2011, pan newidiodd ei fflip-fflops a’i stubby holder am ffans bwrlésg a thasls tethi â diemwntau ffug. Yn ogystal â bwrlésg, mae’n perfformio catalog helaeth o ddawns, yn amrywio o Bollywood i ddawns bola i Samba Brasil.

Sandy Sure

Mae Sandy Sure yn sassy, yn synhwyrus ac yn swreal, gan swyno cynulleidfaoedd ledled y byd gyda’i hystod bywiog o gymeriadau a pherfformiadau cyfareddol.

Mae act nodweddiadol Sandy, Beetlejuice, yn ei dangos ar ei mwyaf ellyllaidd o hurt, gyda’r act lawen Juicy Disco yn ei dangos yn disgleirio’n ddwyfol!

Gan ddechrau ei gyrfa fel un o aelodau gwreiddiol Clwb Cabare Caerdydd yn 2008, mae Sandy bellach yn adnabyddus fel act ryngwladol sy’n cloi sioeau ac sydd wedi ennill sawl gwobr. Gan fynd â’i hegni deinamig i lwyfannau yn y Swistir, Ohio, Norwy a mwy; boed yn perfformio i theatr orlawn neu gynulleidfa cabare glòs, mae Sandy bob amser yn llwyddo i swyno ei chynulleidfa, gan eu gadael yn awchu am ei pherfformiad nesaf.

FooFooLaBelle - The Mighty Atom!

O’r syrcas i’r panto, dawnsio bola a bwrlésg, mae FooFoo wedi bod yn ddiddanwraig ers dros 30 o flynyddoedd. Mae’n berfformwraig feistrolgar (dawnswraig, cantores, coreograffydd, cynhyrchydd, mam a pherchennog busnes), sydd bob amser yn datblygu ac yn rhannu ei miri hudol gyda chynulleidfaoedd ledled y wlad.

Hyfforddodd Stephanie, sef FooFooLaBelle, mewn Theatr Gerdd yn Ysgolion Addysgol y Celfyddydau, Llundain. Sefydlodd Glwb Cabare Caerdydd yn 2007, ac ers hynny mae hi wedi cynhyrchu dros 250 o sioeau cabare unigryw. Mae cymuned gynhwysol o gyfeillgarwch, treiddgarwch, a dealltwriaeth wedi datblygu o gwmpas y Clwb Cabare, sy’n grymuso ac yn meithrin hunan-ddatblygiad, creadigrwydd a delwedd corff cadarnhaol.

Amser dechrau: 8.30pm, drysau 8pm

Canllaw oed: 18+

Rhybuddion: Iaith gref, noethni, goleuadau sy'n fflachio a synau uchel.

IECHYD DA!

Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Cabaret