Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Parêd Llusernau 2023: When the Kings Came

Glanfa

12 Rhagfyr 2023

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Parêd Llusernau 2023: When the Kings Came {{::on_sale_date.label}} Glanfa MM/DD/YYYY 15 event-1999

Parêd Llusernau 2023: When the Kings Came

12 Rhagfyr 2023

Glanfa

Wedi’i guradu gan Y Parchedig Owen James, Caplan Canolfan Mileniwm Cymru, ac wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth â’r Senedd. 

Ymunwch â ni am noson o ganeuon, cawl a llawenydd y Nadolig. 

Hoffem eich croesawu i’r Glanfa ar gyfer dathliad o’r Nadolig ar ddydd Mawrth 12 Rhagfyr o 4.30pm lle byddwn ni’n gwrando ar garolau a pherfformiadau. Bydd Côr Ysgol St Paul’s, Côr Ysgol St Mary’s a Chôr Gwirfoddolwyr Canolfan Mileniwm Cymru yn ymuno â ni. 

Am 5.30pm byddwn ni’n gadael Canolfan Mileniwm Cymru i gerdded mewn parêd llusernau wedi’i arwain gan Gymdeithas Celfyddydau a Diwylliant Butetown a fydd yn creu perfformiad newydd arbennig ar gyfer y digwyddiad.  

“Bydd y parêd wedi’i ysbrydoli gan bantomeim mygydau Junkanoo Jamaicaidd sydd, yn ei dro, wedi cael ei ddylanwadu gan draddodiadau Gorllewin Affricanaidd ac Ewropeaidd. Er enghraifft, mae Junkanoo yn ymgorffori cymeriadau archdeip fel ‘Pen Ceffyl’, sy’n debyg i draddodiad y Mari Lwyd yng Nghymru. Bydd yr ensemble yn cynnwys tua 12 o ddawnswyr, drymwyr a cherddorion eraill, a fydd i gyd mewn gwisgoedd newydd a gomisiynwyd ar gyfer y perfformiad.” 

Dewch â llusern i ymuno â ni ar daith brydferth drwy’r Basn Hirgrwn i’r Eglwys Norwyaidd ac yn ôl i risiau’r Senedd. Byddwn ni’n mwynhau perfformiadau gan Fand Dur Pantasia ac yn canu carolau cynulleidfaol cyn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru i wrando ar Gôr Cambrensis, a byddwn ni’n ymuno i ganu carolau gyda’n pianydd ac arweinydd y côr, Meilyr Geraint Rees.  

Os na allwch chi greu llusern, byddwn ni’n cynnal gweithdai yng Nghanolfan Mileniwm Cymru o 4pm ar y noson. Byddai’r Senedd hefy wrth eu bodd i’ch croesawu chi ar 9 Rhagfyr rhwng 12pm a 3pm ar gyfer gweithdy gyda’r artistiaid Alice a Niki Fogaty, a fydd yn creu’r coronau i gynrychioli’r Brenhinoedd.  

Cyflwynir yn

Glanfa