Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Parti Diwedd Blwyddyn 2023

Canolfan Mileniwm Cymru

11 Rhagfyr 2023

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Parti Diwedd Blwyddyn 2023 {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-1946

Parti Diwedd Blwyddyn 2023

11 Rhagfyr 2023

Canolfan Mileniwm Cymru

Ymunwch â ni am Barti Diwedd Blwyddyn yn Dirty Martini ar gyfer staff Canolfan Mileniwm Cymru a gweithwyr llawrydd.

  • Ble: Dirty Martini, Caerdydd           
  • Pryd: Dydd Llun 11 Rhagfyr 2023, 6.30pm – 11.30pm         
  • Cod gwisg: Ffansi, Nadoligaidd neu ffynci           
  • Dyddiad cau ar gyfer ateb: Dydd Sul 17 Tachwedd 2023

Beth sydd wedi'i gynnwys gyda fy nhocyn?
Paratowch ar gyfer yr uchafbwyntiau syfrdanol canlynol, sydd wedi'u cynnwys gyda'ch tocyn:
 

  • Man preifat: i gymysgu, dawnsio a chael hwyl yr ŵyl.
  •  Diod am ddim wrth gyrraedd: A chroeso.    
  • Bops ar alw: Mae ein DJ yn addo chwarae rhai o'r hen ffefrynnau a'r hyn maen nhw'n ei alw'n "hits."
  • 2 x Taleb Diod: Dangoswch y rhain wrth y bar i'w defnyddio. Bydd opsiynau di-alcohol ar gael.
  • Platiau blasus: Bydd bwyd yn cael ei ddarparu ar gyfer holl ofynion dietegol.  Bydd modd i chi nodi’r rhain pan fyddwch chi'n archebu'ch tocyn.
  • Gwobrau raffl anhygoel: Mae'r rhain mor wych y byddwch chi'n meddwl tybed sut oeddech chi erioed wedi byw hebddynt.
  • Cymerwch lun: Paratowch i dynnu ystumiau gwirion yn ein bwth lluniau! Perffaith am bach o hwyl yn hwyrach yn y noson.
  • Adloniant: I'w gadarnhau, ond bydd yn wych.

Sut ydw i'n prynu fy nhocyn?

Gallwch archebu ar-lein, yn ogystal ag yn bersonol wrth ein desg wybodaeth.

I archebu ar-lein:

1.      Yn gyntaf sicrhewch eich bod wedi cofrestru i allu archebu cynigion staff ar-lein. Mae hwn yn gofrestriad un-tro yn unig a byddai wedi cael ei wneud trwy CentreOffers@wmc.org.uk

2.      Mewngofnodwch i'ch cyfrif staff ar-lein www.wmc.org.uk

3.      Cliciwch ar y ddolen hon am docynnau parti CLWB: Parti Diwedd Blwyddyn 2023 | Canolfan Mileniwm Cymru

*DS: gall contractwyr a rhyddgyfrannwyr brynu tocynnau o’n desg tocynnau yn unig, gan ddefnyddio'r cod "Rhyddgyfrannwr."

Staff CMC: £7

Llawrydd / CBRE: £12

 

Ynglŷn â Dirty Martini

Mae Dirty Martini yng nghanol Caerdydd, gyda digon o lefydd i barcio a chysylltiadau trafnidiaeth gerllaw. Mae'r lleoliad yn gwbl hygyrch, a ni yn unig fydd yn defnyddio'r lleoliad ar y noson.

Mae croeso i bawb ymuno â ni yn y dathliadau – edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru