Ar ôl noson hynod lwyddiannus gyda’i sioe Piaf, mae’r gantores lwyddiannus Christine Bovill yn dychwelyd gyda’i sioe newydd, Piaf to Pop, oedd yn llwyddiant ysgubol a werthodd bob tocyn yng Ngŵyl Cyrion Caeredin 2022.
Yn y sioe mae'n teithio i'r chwedegau ac i’r broses o Americaneiddio cerddoriaeth Ffrainc: le yé-yé. Mewn cyfnod o newid diwylliannol mawr yn Ffrainc, fyddai celfyddyd uchel y chanson yn goroesi...?
Mae’r sioe newydd yma’n cynnig dathliad rhywiol a blasus o oes aur canu Ffrengig a sut yr esblygodd yn ystod y chwedegau chwyldroadol.
Gan ganu yn Ffrangeg a Saesneg, mae’n anrhydeddu nifer o sêr gan gynnwys Edith Piaf, Jacques Brel, Serge Gainsbourg a Francoise Hardy.
"Christine Bovill is a marvel. Not only does she evoke the spirit of French chanson in every note that she sings, she is one of the best storytellers you will ever encounter."
Amser dechrau: 8.30pm, drysau 7.30pm
Oed: 14+
IECHYD DA!
Drysau ar agor 1 awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.