Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Poet Treehouse

Cymuned i storïwyr wedi'i chyflwyno gan Duke Al

Lolfa

16 Ebrill 2023

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Poet Treehouse {{::on_sale_date.label}} Lolfa MM/DD/YYYY 15 event-1696

Poet Treehouse

Cymuned i storïwyr wedi'i chyflwyno gan Duke Al

16 Ebrill 2023

Lolfa

Hadau dylanwadol yw geiriau, sy’n llunio ein dail wrth i ni dyfu i fod yn goeden o farddoniaeth.

Croeso i Poet Treehouse; lle i ddianc rhag pwysau cymdeithas, lle sy’n cefnogi artistiaid eraill, lle i fynegi eich hun.

Bydd artistiaid cyffrous ym mhob digwyddiad a chyfle i fwynhau diod boeth neu gwrw o Caffi. I orffen, bydd sesiwn meic agored – os oes gennych chi rywbeth i’w ddweud, gadewch i ni ei glywed!

Ymunwch â chymuned o feirdd, artistiaid, rapwyr, awduron ac adroddwyr straeon.

Perfformiwch, ymlaciwch a mwynhewch y doniau lleol! Dewch i brofi pŵer geiriau, odlau a rhediad barddoniaeth.

Sêr y digwyddiad ym mis Ebrill yw:

 

Connor Allen

Connor yw’r Children’s Laureate of Wales cyfredol.

Ers graddio o Brifysgol y Drindod Dewi Sant fel actor, mae wedi gweithio gyda chwmnïau fel Theatr y Sherman, Tin Shed Theatre a National Theatre Wales.

Mae’n aelod o National Youth Theatre Prydain Fawr ac enillodd MonologueSlam TriForce Caerdydd, gan gynrychioli Cymru yn y digwyddiad i enillwyr yn Llundain.

Fel awdur roedd yn aelod o grwpiau ysgrifennu Welsh Voices BBC Wales a grŵp Cymraeg y Royal Court ac mae wedi ysgrifennu i BBC Wales, BBC Radio 4, Theatr y Sherman, Llenyddiaeth Cymru a Dirty Protest.

Mae gwaith Connor wedi’i ysbrydoli gan elfennau o’i fywyd ei hun fel galar, cariad, gwrywdod, hunaniaeth ac ethnigrwydd.

Yn ddiweddar ysgrifennodd a pherfformiodd yng nghynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru The Making of a Monster, enillodd Wobr Rising Stars Cymru 2021 a derbyniodd Gronfa Gwaith Byw gan Jerwood Arts.

 

Taylor Edmonds

Bardd ac awdur o’r Barri yw Taylor Edmonds.

Mae ei gwaith yn archwilio themâu benywdod, hunaniaeth, cysylltiad, natur a grymuso. 

Caiff ei hysgogi gan wella hygyrchedd ysgrifennu creadigol i gymunedau a hyrwyddo effaith gadarnhaol ysgrifennu ar lesiant unigolion.

Taylor oedd Bardd Preswyl 21–22 ar gyfer Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

Mae pamffled barddoniaeth cyntaf Taylor, Back Teeth, ar gael nawr gan Broken Sleep Books.

Amser dechrau: 6pm

Hyd y perfformiad: 2 awr

Cyflwynir yn

Lolfa