Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Smut Slam: Blood and Guts

Cabaret

19 Hydref 2023

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Smut Slam: Blood and Guts {{::on_sale_date.label}} Cabaret MM/DD/YYYY 15 event-1910

Cabaret

Smut Slam: Blood and Guts

19 Hydref 2023

Cabaret

Y mis Hydref yma, paratowch ar gyfer DYCHWELIAD SMUT SLAM. 

Mae’r sesiwn meic agored adrodd straeon gyffrous yma – yn seiliedig ar fywyd go iawn, chwant go iawn, rhyw go iawn – yn ôl gyda thema Calan Gaeaf arbennig, sef ‘Gwaed a Choluddion’. Ymweliadau â’r Adran Frys! Damweiniau aruthrol! Eiliadau brawychus wrth ocheneidio! Gwnewch i ni syrthio oddi ar ein cadeiriau, neu riddfan o achos anwedduster. 

Wedi’i greu a’i gyflwyno gan y pyrf proffesiynol Cameryn Moore, mae Slut Slam yn cynnwys straeon person cyntaf bywyd go iawn am ryw gan y gynulleidfa, hanesion gan feirniaid gwadd a darlleniadau o ‘The F*ckbucket’, cynhwysydd cyfleus ar gyfer eich holl gwestiynau a chyfaddefiadau dienw!   

Pwysig: Mae Smut Slam yn cwiar-gyfeillgar, cinc A fanila-gyfeillgar, tew-gyfeillgar, gweithwyr rhyw-gyfeillgar, gwyryf-gyfeillgar, amlgarwriaeth-gyfeillgar, rydyn ni’n gyfeillgar iawn iawn. Rydyn ni’n croesawu pobl sydd â phob math a lefel o brofiadau rhywiol. Darllenwch ein Cod Ymddygiad i gael manylion am sut i gymryd rhan!    

Amser dechrau: 8.30pm, drysau 7.30pm

Oed: 18+

Rhybuddion: Iaith gref a thrafodaethau agored am weithredoedd rhywiol 

IECHYD DA!

Drysau ar agor 1 awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Cabaret