Amser i lawenhau yn y rhodd sy’n rhoi o hyd: SMUT SLAM.
Mae’r unig sesiwn meic agored adrodd straeon yng Nghaerdydd – yn seiliedig ar fywyd go iawn, chwant go iawn, rhyw go iawn – yn creu gofod cysurus ym mis Rhagfyr ar gyfer eich hanesion am ‘Roi a Derbyn’. Cariadon hael, syrpreisys wedi’u lapio’n arbennig, rhywbeth bach ychwanegol mewn parti Nadoligaidd... dyma hwyl yr ŵyl!
Wedi’i greu a’i gyflwyno gan y pyrf proffesiynol Cameryn Moore, mae Slut Slam yn cynnwys straeon person cyntaf bywyd go iawn am ryw gan y gynulleidfa, hanesion gan feirniaid gwadd, a darlleniadau o ‘The F*ckbucket’, cynhwysydd cyfleus ar gyfer eich holl gwestiynau a chyfaddefiadau dienw!
Pwysig: Mae Smut Slam yn cwiar-gyfeillgar, cinc A fanila-gyfeillgar, tew-gyfeillgar, gweithwyr rhyw-gyfeillgar, gwyryf-gyfeillgar, amlgarwriaeth-gyfeillgar, rydyn ni’n gyfeillgar iawn iawn. Rydyn ni’n croesawu pobl sydd â phob math a lefel o brofiadau rhywiol. Darllenwch ein Cod Ymddygiad i gael manylion am sut i gymryd rhan!
Amser dechrau: 8.30pm, drysau 7.30pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref a thrafodaethau agored am weithredoedd rhywiol
IECHYD DA!
Drysau ar agor 1 awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.