Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

The Commitments

Theatr Donald Gordon

22 – 27 Mai 2023

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London The Commitments {{::on_sale_date.label}} Theatr Donald Gordon MM/DD/YYYY 15 event-759

The Commitments

22 – 27 Mai 2023

Theatr Donald Gordon

Pum mlynedd ar ôl rhediad arobryn yn y West End yn Llundain a thaith ddilynol a werthodd allan, mae The Commitments yn ôl! Yn seiliedig ar y ffilm boblogaidd a enillodd wobrau BAFTA, ymunwch â ni ar gyfer dathliad gwych o gerddoriaeth soul a fydd yn gwneud i chi godi ar eich traed i ddawnsio!  

Mae’r cynhyrchiad llwyddiannus yma, sydd wedi cael ei addasu o’r nofel eiconig gan yr awdur ei hun Roddy Doyle sydd wedi ennill gwobr Booker, ac sydd wedi’i gyfarwyddo gan Andrew Linnie, yn cynnwys seren Coronation Street Nigel Pivaro. Bydd dros 20 o ganeuon soul poblogaidd yn cael eu perfformio’n fyw ar y llwyfan gan gynnwys: Night Train, Try A Little Tenderness, River Deep, Mountain High, In The Midnight Hour, Papa Was A Rolling Stone, Save Me, Mustang Sally, I Heard It Through The Grapevine, Thin Line Between Love and Hate, Reach Out, Uptight, Knock On Wood, I Can’t Turn You Loose a mwy! 

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

“Unstoppable fun A big-hearted, big night out"”

The Times

Mae The Commitments yn adrodd stori Jimmy Rabbitte, ffan dosbarth gweithiol o gerddoriaeth sy’n breuddwydio am ddechrau’r band soul gorau y mae Dulyn erioed wedi’i gynhyrchu. Ar ôl rhoi hysbyseb fach mewn papur newydd cerddoriaeth, mae Jimmy yn cynnal clyweliadau i ddewis aelodau ei fand newydd: The Commitments. Ond, fel mae pob cerddor byw yn gwybod, dyw dod â band at ei gilydd byth yn mynd rhagddo’n rhwydd – yn enwedig ar ôl cwpl o beintiau o Guinness!

Dewch i weld y sioe gerdd ysblennydd o’r West End sy’n siŵr o fod yn noson allan na fyddwch chi byth yn ei hanghofio. 

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

A WHOPPING TRIUMPH OF A SHOW. BREATH-TAKING

Irish Mail on Sunday

Canllaw oed: 12+

Amser cychwyn: 
Llun – Sad 7.30pm
Iau a Sad 2.30pm

Hyd y perfformiad: Tua 2 awr 20 munud, yn cynnwys un egwyl

Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain: 25ain Mai, 7.30pm. THEATRESIGN Education, Access & Mentoring Ltd sy’n darparu ein gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain. Y cyfieithydd ar gyfer y perfformiad yma fydd Taz Hockaday.

Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon