Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Bob dydd Llun, 5pm - 7pm

Theatr Ieuenctid

Cyfle creadigol am ddim

Canolfan Mileniwm Cymru

8 Mai – 24 Gorffennaf 2023

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Theatr Ieuenctid {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-1745

Bob dydd Llun, 5pm - 7pm

Theatr Ieuenctid

Cyfle creadigol am ddim

8 Mai – 24 Gorffennaf 2023

Canolfan Mileniwm Cymru

Ydych chi rhwng 14 a 17 oed, ac yn ymddiddori mewn creu theatr sy’n berthnasol i’r byd rydych chi’n byw ynddo heddiw?

Ymunwch yn ein rhaglen theatr ieuenctid newydd sbon am ddim, lle byddwch chi’n dysgu sgiliau theatr a pherfformio newydd mewn gofod cyfeillgar a chynhwysol.

Yn ystod y rhaglen, byddwch chi’n datblygu eich dealltwriaeth o’r holl elfennau sy’n rhan o greu gwaith theatr da – o ymchwilio a datblygu syniadau, i gynllunio setiau a rhoi perfformiad o fri.

Ymarferwyr proffesiynol fydd yn arwain y cwrs, a byddant wrth law i rannu eu safbwyntiau unigryw o fyd y theatr, gan roi’r man cychwyn perffaith i chi i ddiwylliant celfyddydol ffyniannus Cymru.

AR GYFER PWY MAE’R CWRS?

Mae ein cyrsiau ar gael i unrhyw un rhwng 14 ac 17 oed o bob cefndir ledled Cymru, ac maen nhw ar lefel mynediad – wedi’u hanelu at y chwilfrydig, dechreuwyr, neu bobl ifanc sy’n dymuno adnewyddu eu sgiliau.

Er mwyn cadw lle ar ein cwrs am ddim, cofrestrwch.

PRYD?

Bob dydd Llun, 5pm – 7pm dros deuddeg wythnos, yn cychwyn 8 Mai 2023. Unwaith i chi gofrestru byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth am y cwrs.

Cynhelir deuddeg sesiwn ar y dyddiadau canlynol: 8 Mai, 15 Mai, 22 Mai, 29 Mai, 5 Mehefin, 12 Mehefin, 19 Mehefin, 26 Mehefin, 3 Mehefin, 10 Mehefin, 17 Mehefin and 24 Mehefin 2023, a bydd angen i chi fynychu bob un. Ychwanegwch un tocyn i'ch basged i archebu'ch lle ar y cwrs cyfan.

Os yw'r cwrs hwn wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni mewn cysylltiad os bydd lle ar gael.

AM EIN CYRSIAU LLAIS CREADIGOL

Mae Llais Creadigol yn rhaglen unigryw sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc archwilio’u diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.

Ariennir y gweithgaredd hwn gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru