Galwch heibio yn ein digwyddiad Tu ôl i’r Llen i weld beth sydd wir yn digwydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Ymunwch â ni am ginio yn ein bar caffi newydd Ffwrnais, lle gallwch chi fwynhau prif bryd a diod boeth am £6. Yna, dewch i gwrdd â rhai o’n staff a fydd yn ein hardal blaen y tŷ i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am ein gwaith, a chymerwch sedd i fwynhau ein sesiynau holi ac ateb a fydd yn digwydd yn ystod y prynhawn.
1.45–1.45 – Panel Partneriaid
Dewch i gwrdd ag un o’n Cymdeithion Creadigol a rhai o’n sefydliadau partner.
1.45–2.15 – Panel Cynyrchiadau
Dewch i glywed straeon am ein cynyrchiadau presennol a blaenorol gan gynnwys Es & Flo, The Boy with Two Hearts a The Making of a Monster.
2.15–2.30 – Sesiwn Holi ac Ateb am yr Adeilad
Dysgwch am ein paneli solar newydd a sut rydyn ni’n gwneud ein hadeilad yn fwy cynaliadwy.
2.30–3.00 – Sesiwn Holi ac Ateb am The Bodyguard
Dewch i gwrdd â rhai o’r tîm tu ôl i’r sioe gerdd ryngwladol arobryn The Bodyguard, sydd yn ein Theatr Donald Gordon yr wythnos yma
Cofiwch hefyd wylio un o’r perfformiadau Carnifal a fydd yn digwydd rhwng 9am a 3pm.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad hwn, anfonwch e-bost i supporters@wmc.org.uk.