Bydd Vaguely Artistic yn mynd â chi ’nôl, ’nôl, ’NÔL I'R YSGOL!
Ymunwch â’r parti am noson o gerddoriaeth wrthryfelgar a phob math o gamgymeriadau wrth gydnabod enwau awduron caneuon (ydyn, rydyn ni’n methu’r prawf hanes bob tro).
Gwisgwch eich gwisg ysgol, achos bydd gwobr i'r disgybl sydd wedi gwisgo orau yn y parti!
Bydd hwn yn Barti a Hanner! Felly os ydych chi eisiau bod yn un o'r Kids Cŵl, byddwch yn barod i Padam, Padam!
VAGUELY ARTISTIC
Band cynhwysol mewnol Hijinx yw Vaguely Artistic sy’n creu cerddoriaeth pync, roc, pop, enaid, blŵs a ffync – yn y bôn, rydyn ni’n gwneud y cwbwl lot! Bydd llwyth o ganeuon adnabyddus, ac fe fyddwn ni’n siŵr o daflu ambell gân wreiddiol o'n halbwm i mewn hefyd. Mae’r albwm ar gael ar Bandcamp ac ar y prif wasanaethau ffrydio.
Dydych chi erioed wedi clywed dim byd tebyg i ni!
Amser dechrau: 8.30pm, drysau 7.30pm
Canllaw oed: 15+
IECHYD DA!
Drysau ar agor 1 awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.