Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
A woman wearing a VR headset

Menywod mewn Technoleg Ymdrochol

Sgwrs rhad ac am ddim

Cabaret

8 Mawrth 2023

Menywod mewn Technoleg Ymdrochol

Sgwrs rhad ac am ddim

8 Mawrth 2023

Cabaret

Ymunwch â ni ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod wrth i ni ddathlu gwaith anhygoel ac ysbrydoledig menywod yn y byd celfyddydau a thechnoleg ymdrochol.

Bydd tri pherson creadigol dylanwadol benywaidd yn rhannu eu profiad o weithio yn y celfyddydau a thechnoleg ymdrochol, gan rannu syniadau ac ysbrydoliaeth i helpu eraill i adael eu hôl ar y byd technoleg ymdrochol.

Dewch i ymuno a mwynhau diod, cael eich ysbrydoli a gwneud cysylltiadau newydd.

Rhowch gynnig ar brofiad ymdrochol

Cyn ac ar ôl y digwyddiad, byddwch chi hefyd yn gallu profi Monoliths – profiad realiti rhithwir rhad ac am ddim yn Bocs, ein gofod ymdrochol pwrpasol. Mae’r cynhyrchiad 11 munud o hyd yn cynnwys cyflwyniadau am dri amgylchedd yng ngogledd y DU, seinweddau ysgubol a monologau barddol.

Lucy Hammond, Cynhyrchydd Creadigol Monoliths, fydd un o’r siaradwyr gwadd.

Dewch i roi cynnig ar y profiad, clywed gan dri unigolyn creadigol blaenllaw a rhwydweithio â phobl gymharus.

Cewch un ddiod rad ac am ddim wrth gyrraedd, a bydd bar ar agor i brynu mwy yn ystod y noson.

Siaradwyr

Lucy Hammond

Mae Lucy yn gweithio fel Cynhyrchydd Creadigol a Chyfarwyddwr gyda Pilot Theatre. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar adrodd straeon ymdrochol a rhyngweithiol. Mae ei phrosiectau diweddar yn cynnwys ‘The Archive’, gêm ryngweithiol sy’n archwilio hapusrwydd, a’r profiad VR ‘Monoliths’ (DocFest Sheffield 2022, MIFF 2022, ASFF 2022, Gŵyl Ffilmiau Llundain BFI 2022), sy’n dathlu lleisiau menywod a thirwedd gogledd y DU. Yn 2019 dangoswyd darn VR Lucy, ‘Traitor’, sy’n cyfuno realiti rhithwir, ffilm ac actor byw, am y tro cyntaf mewn cystadleuaeth yng Ngŵyl Ffilmiau Tribeca 2019. Mae hi hefyd wedi cyflwyno mewn sawl cynhadledd gan gynnwys Cynhadledd Beyond 2021, Culture 24: Let’s Get Real, y Symposiwm Adrodd Straeon Ymdrochol ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl, panel Sharing is Caring: Shared Experiences in Mixed Reality yng Ngŵyl Ffilmiau Tribeca a Fforymau Creadigol PlatformSHIFT+ yn Tallinn, Budapest a Lisbon.

Victoria Eyton

Mae Victoria Eyton wedi gweithio gyda DARKFIELD fel Cynhyrchydd Creadigol a Chyfarwyddwr Creadigol ers 2016 ar bob prosiect, ac mae ganddi brofiad helaeth o weithio o fewn perfformiadau theatr ymdrochol ar raddfa fawr. Mae ei phortffolio eang yn cynnwys Brave New World ar gyfer NBC Universal a sioe newydd arobryn ABBA, The Voyage. Mae Victoria hefyd wedi gweithio i Punchdrunk ers 2013 ar brosiectau gan gynnwys Sleep No More Shanghai, The Lost Lending Library, The Oracles, Absolut Silverpoint, The Drowned Man: A Hollywood Fable a phrosiectau ymchwil a datblygu amrywiol.  

Asha Easton

Asha Easton yw Arweinydd KTN Innovate UK ar gyfer Immerse UK, rhwydwaith arloesedd cenedlaethol y DU ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes technoleg ymdrochol. Nod y sefydliad yw tyfu’r diwydiant technoleg ymdrochol yn y DU, a gwneud yr ecosystem yn llai tameidiog drwy hwyluso cysylltiadau rhwng cwmnïau preifat, y gymuned academaidd a’r llywodraeth. Mae Asha yn frwdfrydig dros helpu i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn y diwydiant. Mae’n un o aelodau gwreiddiol cangen Llundain o Women in Immersive Tech (WiiT), yn gyd-sylfaenydd yr XR Diversity Initiative ac yn gynghorydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i gronfa metafyd gyntaf Ewrop, FOV Ventures.

Mer 8 Mawrth 4.30pm – 7.30pm

Cyflwynir y digwyddiad yma drwy bartneriaeth rhwng Media Cymru Innovation Spaces a Chanolfan Mileniwm Cymru.

Archebwch eich lle rhad ac am ddim drwy dudalen Eventbrite Media Cymru.

Cyflwynir yn

Cabaret