Ymunwch â ni am Ymarfer Agored yn y Tŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru – cartref Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Dewch i godi cwr y llen a gweld sut mae dawns yn cael ei chreu wrth inni agor drysau'r ystafell ymarfer i’r cyhoedd.
Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Chwmni Dawns Gyfoes Cenedlaethol Corea yn cydweithio'r hydref hwn i greu dau ddarn newydd a fydd yn cael eu perfformio gyda’i gilydd am y tro cyntaf fel sioe ddwbl o’r enw Wales Connection, yng Nghanolfan Gelfyddydau Seoul rhwng 24 a 26 Tachwedd 2023.
Mae’r sesiwn Ymarfer Agored hon yn gyfle arbennig ac unigryw i weld gwaith Boram Kim gyda CDCCymru cyn iddo fynd ar daith yn 2024.
Mae Boram Kim yn goreograffydd poblogaidd o Gorea, ac ef yw cyfarwyddwr artistig Cwmni Dawns Ambiguous.
Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn elusen a’i nod yw gwneud dawns ar gael i bawb yng Nghymru, ac felly mae modd i chi ddod i’r digwyddiad hwn am ddim. Bydd croeso cynnes yn aros amdanoch.
Os, fodd bynnag, ydych chi mewn sefyllfa i dalu’r hyn a fynnwch tuag at docyn ar gyfer y digwyddiad hwn, byddwch yn helpu CDCCymru i barhau i gyfoethogi bywydau eraill drwy ddawns.
P’un a ydych yn mynychu am ddim, neu’n talu faint rydych yn teimlo sy’n addas, archebwch docyn ymlaen llaw er mwyn rhoi gwybod inni eich bod yn dod, gan mai nifer cyfyngedig o seddi sydd ar gael.
Start time: 6pm
Duration: 1 hour