Ymunwch â ni am Ymarfer Agored yn y Tŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru – cartref Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Dewch i godi cwr y llen a gweld sut mae dawns yn cael ei chreu wrth inni agor drysau'r ystafell ymarfer i’r cyhoedd.
Mae ‘Zoetrope’* gan y coreograffwr enwog, Lea Anderson, yn ddarn newydd wedi'i greu gyda CDCCymru, wedi’i ysbrydoli gan animeiddiad cynnar ac yn ysbryd y ffair. Bydd y llwyfan wedi'i lenwi ag animeiddiadau a phatrymau symud cyffrous.
Ymunwch â ni i weld sut rydym yn rhoi bywyd i Zoetrope.
Bydd Zoetrope yn cael ei berfformio yn y Tŷ Dawns fis Rhagfyr.
Beth yw Zoetrope?
Mae zoetrope yn ddyfais animeiddio cyn y ffilm sy’n cynhyrchu camargraff o symudiad drwy arddangos cyfres o luniadau neu ffotograffau sy’n dangos camau dilynol y symudiad hwnnw.
Ddim yn gallu mynychu wyneb yn wyneb? Bydd yr ymarfer hwn hefyd yn cael ei ffrydio ar-lein – ewch i’n gwefan i wylio.
Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn elusen a’i nod yw gwneud dawns ar gael i bawb yng Nghymru, ac felly mae modd i chi ddod i’r digwyddiad hwn am ddim. Bydd croeso cynnes yn aros amdanoch.
Os, fodd bynnag, ydych chi mewn sefyllfa i dalu’r hyn a fynnwch tuag at docyn ar gyfer y digwyddiad hwn, byddwch yn helpu CDCCymru i barhau i gyfoethogi bywydau eraill drwy ddawns.
P’un a ydych yn mynychu am ddim, neu’n talu faint rydych yn teimlo sy’n addas, archebwch docyn ymlaen llaw er mwyn rhoi gwybod inni eich bod yn dod, gan mai nifer cyfyngedig o seddi sydd ar gael.
Amser dechrau: 6pm
Hyd y perfformiad: 1 awr