Paratowch i gael eich ysgubo oddi ar eich traed gydag An Officer and a Gentleman The Musical, yn seiliedig ar y ffilm arobryn o'r 80au. Bydd y stori ddiamser yma o gariad, dewrder ac achubiaeth yn codi eich calon ac yn eich gadael yn ysu am fwy.
Byddwch yn rhan o daith emosiynol Zack Mayo, swyddog ifanc diofn, a Paula Pokrifki, y mae ei hysbryd tanbaid yn cyfateb â’i un ef. Mae eu cyfarfodydd yn tanio sbarc sy’n mynd y tu hwnt i ffiniau, gan ddeffro cariad angerddol sy’n herio pob disgwyl.
Gyda phob nodyn, pob cam a phob baled emosiynol, ymdrochwch eich hun yn y campwaith rhamantus yma. Gyda thrac sain poblogaidd sy’n cynnwys caneuon gan Madonna, Bon Jovi, Cyndi Lauper, Blondie a llawer mwy, bydd pŵer cerddoriaeth yn mynd â chi drwy uchafbwyntiau ac isafbwyntiau eu stori gariad anhygoel, gan gynnwys y gân arobryn (Love Lift Us) Up Where We Belong.
Mae An Officer and a Gentleman The Musical yn eich gwahodd i fyd lle mae breuddwydion a ffawd yn ymblethu. Peidiwch â cholli eich cyfle i brofi’r rhamant hudolus yma yn dod yn fyw ar y llwyfan.
‘EVERYTHING YOU WANT AND MORE’
Canllaw oed: 12+ (dim plant dan 2 oed)
Gall y cynhyrchiad hwn gynnwys goleuadau sy'n fflachio/strôb, cleciau uchel ac iaith gref.
Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Amser cychwyn:
Llun – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: tua 2 awr a 30 munud (yn cynnwys un egwyl)
CYNIG I AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), nifer cyfyngedig o lefydd
Aelodaeth
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5 o leiaf, Maw – Iau (2 bris uchaf)
Trefnu ymweliad grŵp
POBL O DAN 16 OED
Gostyngiad o £5, Maw – Iau (2 bris uchaf)
MYFYRWYR
Gostyngiad o £5, Maw – Iau
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.