Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Everybody Dance gyda Claire Richards

15 Hydref 2024

Theatr Donald Gordon

Ymunwch â Claire Richards, seren Steps, ar gyfer y parti disgo eithaf, EVERYBODY DANCE!

Mae’r daith gyngerdd ddisglair newydd sbon yma yn cynnwys y caneuon dawns a disgo gorau erioed. O Donna Summer i Dua Lipa, Beyonce, Chic, The Weekend, Chaka Kahn, Daft Punk, Whitney, Cher, ABBA a llawer mwy. Canwch, dawnsiwch a dathlwch gyda’n cwmni syfrdanol o ddawnswyr dynamig, cantorion rhagorol a brenhines pop, Claire Richards.

Mae’r cyfuniad o lais pwerus Claire a choctel dynamig o arddulliau dawns gan gynnwys salsa, mambo, jazz, hip hop a hyd yn oed rhôl-sglefrio, yn gyffrous. Mae’r sioe yma yn cystadlu â symudiadau MJ, Britney a hyd yn oed John Travolta gyda chaneuon o’r 70au, 80au, 90au a thu hwnt.

Mae’r caneuon eiconig yn cynnwys I Will Survive – Don’t Start Now – You Should Be Dancing – Le Freak – Lady Marmalade – Everybody’s Free – On the Radio – Euphoria No More Tears (Enough Is Enough) – Could It Be Magic – So Emotional – What a Feeling – Only Girl in the World a llawer mwy.

Mae’n amser gwisgo eich secwinau a phrofi noson o glamor, llais syfrdanol a chaneuon pwerus – paratowch ar gyfer EVERYBODY DANCE!

CWRDD A CHYFARCH VIP

Mae tocynnau Cwrdd a Chyfarch VIP £70 yn cynnwys tocyn sioe, cyfle i gwrdd â Claire Richards a phoster wedi’i lofnodi.

Bydd y sesiwn Cwrdd a Chyfarch yn digwydd tu awr cyn y perfformiad am 6.30pm.

Defnyddiwch y cyfleuster 'dewis yn ôl pris' yn hytrach na'r map seddi wrth archebu i ddewis tocynnau VIP.

Amser dechrau: 7.30pm

Hyd y perfformiad: I'w gadarnhau

Canllaw oed: 8+ (dim plant dan 2 oed)
Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed a throsodd.

Rhybuddion: Goleuadau sy’n fflachio

Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon