Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Ffilm Platfform: Ffilm Ddogfen

14 – 25 oed

Canolfan Mileniwm Cymru

5 – 8 Awst 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Ffilm Platfform: Ffilm Ddogfen {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-2275

Platfform

Ffilm Platfform: Ffilm Ddogfen

14 – 25 oed

5 – 8 Awst 2024

Canolfan Mileniwm Cymru

Wyt ti rhwng 14 a 25 oed ac oes gen ti ddiddordeb mewn dysgu sut i saethu dy ffilm ddogfen dy hun?

Dros gyfres o weithdai creu fideos dynamig a chyflym, byddi di’n gweithio drwy hanfodion saethu ffilm ddogfen. Byddi di’n cael profiad ymarferol gyda chyfarpar proffesiynol ac yn cael cyfle i roi dy stamp creadigol dy hun ar y ffilmiau terfynol.

I rywun sy’n newydd i saethu ac sydd am ddysgu mwy, bydd y sesiynau yma’n rhoi’r holl adnoddau sydd eu hangen arnat ti i greu ffilm wych, ond mae hefyd yn addas i’r rhai a gymerodd ran yn ein cwrs fideo cerddoriaeth ym mis Mai 2024.

Yn ogystal â sgiliau ymarferol byddi di hefyd yn dysgu am theori ffilm ac yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy eraill – felly hyd yn oed os nad oes gen ti gyfarpar proffesiynol, galli di drosglwyddo beth rwyt ti’n ei ddysgu ar y cwrs yma i dy waith dy hun yn hawdd.

PWY SY’N ADDYSGU’R CWRS?

Mae Jamie Panton wedi bod yn gwneud gwaith llawrydd fel fideograffydd am ddegawd. Ar ôl dechrau gyda dim ond ychydig iawn o arian ac un DSLR a recordydd sain, mae’n deall sut i weithio i gyllidebau tyn a chreu busnes fideo o’r cychwyn. Mae’n saethu ffilmiau dogfen a fideos cerddoriaeth yn bennaf, yn ogystal â gwneud rhywfaint o waith corfforaethol. Mae’n frwdfrydig dros greu ffilmiau dogfen personol, sy’n aml yn ymwneud â thrafferthion iechyd meddwl a chodi ymwybyddiaeth o broblemau mae pobl yn eu hwynebu. Mae cariad Jamie at sinema avant-garde a hen ffilmiau anhysbys yn amlwg yn ei waith fideos cerddoriaeth.

Mae Jamie yn dwli ar addysgu a rhannu ei frwdfrydedd dros greu fideos a gweld pa syniadau mae dysgwyr yn eu cael yn ystod ei weithdai dynamig a chyflym.

OES ANGEN UNRHYW SGILIAU NEU BROFIAD ARNA I ER MWYN CYMRYD RHAN?

Nac oes – mae’r cwrs yma yn agored i bob lefel a gallu.

PRYD MAE’R CWRS?

5–8 Awst 12–6pm

SUT YDW I’N ARCHEBU?

Archeba dy le drwy glicio ar y botwm archebu ar y dudalen yma. Gwna'n siŵr dy fod yn gallu dod i bob sesiwn o’r cwrs dros y pedwar diwrnod.

Os yw’r cwrs yma wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni’n cysylltu â chi os bydd lle ar gael.

EIN CYRSIAU PLATFFORM

Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig llwyfan i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol.

Caiff y gweithgaredd yma ei ariannu gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru