Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn cyflwyno Llais, gŵyl ryngwladol flynyddol Caerdydd sydd wedi’i ysbrydoli gan yr offeryn sy’n cysylltu bob un ohonom – y llais.
Gyda chymysgedd o ddigwyddiadau am ddim ac â thocyn, mae Llais yn cyflwyno rhaglen o gerddoriaeth fyw anturus, perfformiad i ysgogi’r meddwl a phrofiadau chwareus i bawb.
Heb ei gyfyngu i genre neu ffurf gelf benodol, mae Llais yn dathlu artistiaid rhyngwladol yn ogystal â chreadigrwydd ein cynefin ein hunain, gan drawsffurfio Canolfan Mileniwm Cymru’n safle gŵyl unigryw.
Yn falch o fod yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd. Cefnogir gan Lywodraeth Cymru / Cyngor Caerdydd. Mwy o wybodaeth yn gwyldinasgerddcaerdydd.cymru