Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Delwedd du a gwyn o'r seren bop Rick Astley yn pipo dros ei sbectol haul

Never: An Evening with Rick Astley

Trefnwyd gan Griffin Books, Book-ish a Chepstow Books & Gifts

Theatr Donald Gordon

14 Hydref 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Never: An Evening with Rick Astley {{::on_sale_date.label}} Theatr Donald Gordon MM/DD/YYYY 15 event-2286

Never: An Evening with Rick Astley

Trefnwyd gan Griffin Books, Book-ish a Chepstow Books & Gifts

14 Hydref 2024

Theatr Donald Gordon

Treuliwch noson fythgofiadwy yng nghwmni Rick Astley wrth iddo drafod Never, ei hunangofiant gwych.

Gan gydbwyso hiraeth, safbwyntiau ffres a mewnsyllu, mae Never yn dechrau gyda theulu a magwraeth anghonfensiynol; teithiau drwy’r byd pop cythryblus a hudolus; ac yn cymryd amser i hunanystyried. Mae’r llyfr y mynd tu hwnt i oleuadau llachar y llwyfan – gan roi cipolwg personol ar y dyn tu ôl i’r caneuon llwyddiannus – ac mae’n ddarlun o wirionedd, esblygiad artistig a phŵer rhyfeddol bodlonrwydd.

Mae’r digwyddiad yma yn cael ei gynnal gan dair siop lyfrau annibynnol arobryn: Griffin Books ym Mhenarth, Book-ish yng Nghrucywel a Books & Gifts yng Nghas-gwent.

Mae pob tocyn yn cynnwys rhifyn arbennig o siop lyfrau annibynnol o Never: The Autobiography gan Rick Astley gydag ymyl wedi’i lofnodi yn ddigidol.

Bydd llyfrau ar gael i’w casglu ar y noson yn unig.

Amser dechrau: 7.30pm

Hyd y perfformiad: Tua 1 awr 50 munud (yn cynnwys un egwyl)

Canllaw oed: 12+ (dim plant dan 2 oed)
Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed a throsodd.

Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon