Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Platfform

Gwneuthurwyr Theatr: Theatr Gorfforol

14 – 25 oed

Canolfan Mileniwm Cymru

8 Ebrill – 20 Mai 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Gwneuthurwyr Theatr: Theatr Gorfforol {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-2138

Platfform

Gwneuthurwyr Theatr: Theatr Gorfforol

14 – 25 oed

8 Ebrill – 20 Mai 2024

Canolfan Mileniwm Cymru

Eisiau dysgu am theatr gorfforol ac archwilio dy greadigrwydd drwy ddarn dyfeisiedig yn seiliedig ar gymeriadau a golygfeydd eiconig Shakespeare? 

Bydd y cwrs yn cyflwyno cysyniad theatr gorffodol a'i defnydd o symudiadau, ystumiau a mynegiannau i gyfleu ystyr. Bydd hefyd yn dy helpu di i ddatblygu sgiliau newydd fel addasu testun gyda symudiadau, gweithio mewn ensemble, pypedwaith a dyfeisio.

Byddi di'n cymryd rhan mewn ymarferion a gweithgareddau grŵp amrywiol, a byddi di'n canolbwyntio ar ddatblygu dy syniadau a dy lais dy hun drwy ddyfeisio i archwilio dy botensial creadigol. Bydd y dosbarth yn cydweithio i ddatblygu eu syniadau mewn i ddarn dyfeisiedig o theatr gorfforol. 

Ar ddiwedd y cwrs byddi di wedi magu hyder yn du hun a dy alluoedd a wedi cael cyfle i fynegi dy hun yn greadigol mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Byddi di hefyd wedi datblygu synnwyr o berchenogaeth a balchder yn dy waith, gan deimlo bod rhywun wedi gwrando arnat, a dy fod wedi cydweithio â chyfoedion. 

Pwy sy'n addysug'r cwrs?

Actor, gwneuthurwr theatr a hwylusydd sy’n byw yn Abertawe yw Ellie Evans. Graddiodd o Ysgol Actio East 15 yn 2021. Mae Ellie yn gyfarwyddwr rheolaidd gyda Chwmni Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg ac mae wedi dyfeisio, creu a hwyluso nifer o brosiectau gyda phobl ifanc gan gynnwys Grŵp Actorion Uchelgais Grand. Ellie yw un o gyd-sylfaenwyr Dauntless Evolution, cwmni theatr a berfformiodd ei sioe gyntaf Here and Now ym mis Ebrill 2023 gyda chefnogaeth gan Gyngor y Celfyddydau. Ar hyn o bryd maen nhw ar gam Ymchwil a Datblygu eu hail sioe. Mae Ellie wedi gweithio fel cyfarwyddwr symud, dyfeisiwr a chyfarwyddwr ar gyfer nifer o brosiectau yn ne Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n frwdfrydig iawn dros greu theatr gyffrous gyda phobl ifanc a hwyluso ensemble. 

Oes angen unrhyw sgiliau neu brofiad arna i er mwyn cymryd rhan?

Nac oes – mae’r cwrs yma yn agored i bob lefel a gallu.

Pryd mae'r cwrs? 

Mae'r cwrs yn rhedeg bob dydd Llun, 6pm – 8pm am chwe wythnos rhwng 8 Ebrill a 20 Mai.

Archeba dy le drwy glicio ar y botwm archebu ar y dudalen yma. Gwna yn siŵr dy fod yn gallu dod i bob sesiwn o’r cwrs dros y chwe wythnos. .

Os yw'r cwrs yma wedi gwerthu allan, ychwanega dy fanylion at ein rhestr aros a byddwn ni mewn cysylltiad os bydd lle ar gael.

 

Ein cyrsiau Platfform

Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig llwyfan i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol.

Caiff y gweithgaredd yma ei ariannu gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru