Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Rhwydwaith IDA: Cyfarfod Caerdydd

Am dim

Cabaret

13 Mai 2024

Rhwydwaith IDA: Cyfarfod Caerdydd

Am dim

13 Mai 2024

Cabaret

Cyfarfod rhwydwaith IDA yng Nghaerdydd yw digwyddiad cyntaf Hwb Ida yng Nghymru. Rydyn ni’n meithrin cymuned o fenywod, pobl anneuaidd a phobl draws sy’n gweithio mewn technoleg ymdrochol, neu sydd eisiau gweithio yn y maes. Os ydych chi’n hunaniaethu fel menyw, person anneuaidd neu berson traws, dewch i gwrdd â phobl eraill yn y gymuned.

Ein nod yw gwneud y gofod yma mor groesawgar a chynhwysol â phosibl. Mae ein cyfarfodydd yn anffurfiol a chyfeillgar, p’un a ydych chi’n newydd i’r diwydiant neu beidio. Rydyn ni’n gobeithio bod hwn yn ofod lle y gallwch chi ddod a chysylltu â’r gymuned ddatblygol a chynyddu eich cysylltiadau a’ch hyder.

Bydd y digwyddiad yma yn cynnwys rhwydweithio anffurfiol a chyflwyniadau o’r diwydiant. Bydd Ida yn cyflwyno eu canfyddiadau o’u hadroddiad diwydiant diweddar a bydd cyflwyniadau pellach am lwybrau cyllid hygyrch a jyglo cyfrifoldebau gofal plant.

Caiff y digwyddiad yma ei gynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Bydd diodydd a chinio (opsiynau llysieuol a fegan) yn cael eu darparu. Os ydych chi’n rhiant ac mae cyfrifoldebau gofal plant yn eich rhwystro rhag dod, rhowch wybod i ni ymlaen llaw ac fe wnawn ni ein gorau i’ch helpu chi.

Nodwch, does dim lle i barcio ar y safle, ond mae digon o opsiynau parcio ym Mae Caerdydd; yr agosaf yw Q Park.

Amser y digwyddiad: 1pm - 3.30pm

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad, mae croeso i chi gysylltu â ni: Ida.hwb@wmc.org.uk

Am dim

Cyflwynir yn

Cabaret