Pengwiniaid, eirth gwyn a môr-wenoliaid y gogledd ar ynys yng Nghymru – does bosib bod hynny’n iawn?
Ymunwch â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn Neuadd Hoddinott y BBC ym mis Gorffennaf i ddarganfod stori merch ifanc o’r enw Siân, sy’n gweld effeithiau dinistriol newid hinsawdd ar gynefinoedd pengwiniaid, eirth gwyn a môr-wenoliaid y gogledd, a’i chenhadaeth i ddod o hyd i ateb i wella pethau. Sut y bydd hi’n gwneud hynny? Pa atebion y bydd hi’n dod o hyd iddynt? Ymunwch â ni i gael gwybod...
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Adroddwr: Elin Llwyd
Arweinydd: Grant Llewellyn
Amser dechrau: 3pm
Hyd y perfformiad: 1 awr
Dehongliad BSL gan Julie Doyle. I archebu tocynnau hygyrch BSL, cysylltwch drwy we-sgwrs neu e-bostiwch hygyrchedd@wmc.org.uk
Cynnig teulu
2 oedolyn a 2 blentyn - £25
Cynnig dan 26 oed a myfyrwyr
£5
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)