Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Ysgrifennwyd gan Jeremy Dyson ac Andy Nyman

Ghost Stories

AR WERTH YN FUAN

Theatr Donald Gordon

29 Gorffennaf - 2 Awst 2025

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Ghost Stories {{::on_sale_date.label}} Theatr Donald Gordon MM/DD/YYYY 15 event-2312

Ysgrifennwyd gan Jeremy Dyson ac Andy Nyman

Ghost Stories

AR WERTH YN FUAN

29 Gorffennaf - 2 Awst 2025

Theatr Donald Gordon

Ar werth i Partner a Partner Awen o 1 Gorffennaf
Ar werth i Ffrind a Ffrind+ o 3 Gorffennaf
Ar werth i Grwpiau o 4 Gorffennaf
Ar werth i’r cyhoedd o 5 Gorffennaf

Dewch i mewn i fyd sy’n llawn troeon cynhyrfus ac epig, lle caiff y llythyr cariad eithaf i arswyd ei ddychmygu’n fyw ar y llwyfan.

Pan mae’r Athro Goodman, amheuwr mawr sy’n bwriadu chwalu bri’r goruwchnaturiol, yn ymgymryd ag ymchwiliad i dri achos honedig o ysbrydion – fel yr adroddwyd gan wyliwr nos, bachgen yn ei arddegau a dyn busnes sy’n disgwyl ei blentyn cyntaf – mae Goodman yn ffeindio ei hun wrth derfyn rhesymegedd, ac yn rhedeg allan o esboniadau yn gyflym.

Ghost Stories, sy’n brofiad synhwyraidd a gwefreiddiol, yw un o’r dramâu a gafodd yr adolygiadau gorau erioed yn Llundain, a bydd yn eich cadw ar flaen eich sedd. Mae hwn yn brofiad theatraidd unigryw.

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

An immaculately crafted evening of entertainment

Time Out

Ar ôl llonni cynulleidfaoedd ledled y byd gyda chynyrchiadau a werthodd allan ac a dorrodd recordiau a ffilm lwyddiannus, mae Ghost Stories gan Andy Nyman a Jeremy Dyson wedi cael ei disgrifio fel “Genuine scary fun” (Sunday Times), ac mae’n ffenomenon byd-eang sy’n fwy iasol ac arswydus nag erioed o’r blaen.

Ydych chi’n ddigon dewr i archebu?

I had to sleep with the lights on

Metro

Cyfyngiad Oed: 15+
Yn cynnwys iaith gref, goleuadau strôb a chleciau uchel.

Nodwch: mae Ghost Stories yn cynnwys eiliadau o densiwn a sioc eithafol. Nid yw’r sioe yn addas i unrhyw un o dan 15 oed. Rydyn ni’n cynghori pobl sydd o natur nerfus i feddwl o ddifrif cyn dod.  

Amser dechrau:
Maw – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm

Hyd y perfformiad: Tua 1 awr 30 munud (dim egwyl)

AELODAU

Gostyngiad o £10 ar y perfformiad agoriadol (2 bris uchaf, nifer cyfyngedig o lefydd). Aelodaeth

GRWPIAU

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £4 o leiaf, Maw - Iau (2 bris uchaf). Trefnu ymweliad grŵp

16-30 

Gostyngiad o £8. Ar gael Maw – Iau ar seddi penodol.

 

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon