Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Kinky Boots

AR WERTH YN FUAN

Theatr Donald Gordon

18 – 22 Mawrth 2025

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Kinky Boots {{::on_sale_date.label}} Theatr Donald Gordon MM/DD/YYYY 15 event-2208

Kinky Boots

AR WERTH YN FUAN

18 – 22 Mawrth 2025

Theatr Donald Gordon

Ar werth i Aelodau Partner a Phartner Awen o 29 Ebrill 
Ar werth i Aelodau Ffrind a Ffrind+ o 1 Mai
Ar werth i Grwpiau o 2 Mai
Ar werth i’r cyhoedd o 3 Mai (10am ar-lein)

Mae ffenomenon Broadway a’r West End, Kinky Boots The Musical, yn strytian ‘nôl i Gaerdydd mewn cynhyrchiad newydd sbon gyda Johannes Radebe o Strictly Come Dancing a’r seren newydd Dan Partridge.

Mae’r sioe syfrdanol yma, sy’n seiliedig ar stori wir a ffilm lwyddiannus, yn cynnwys cerddoriaeth a geiriau gan yr eicon pop Cyndi Lauper sydd wedi ennill gwobr Tony a Grammy, llyfr doniol a chadarnhaol gan yr enillydd gwobr Tony Harvey Fierstein ac mae wedi’i chyfarwyddo gan Nikolai Foster (Grease ac An Officer and a Gentleman).

Ar ôl etifeddu ffatri esgidiau ei deulu, sy’n methu, a gyda pherthynas sy’n chwalu, mae bywyd yn heriol iawn i Charlie Price, nes iddo gwrdd â Lola, brenhines drag efallai y bydd ei disgleirdeb a’i sodlau simsan yn gallu achub y busnes sydd mewn trafferth.

Peidiwch â cholli Kinky Boots the Musical, sy’n siŵr o godi’ch calon a dathlu unigoliaeth pawb.

Canllaw oed: 10+
Noder efallai bydd y perfformiad hwn yn cynnwys rhai goleuadau sy'n fflachio + iaith gref

Amser cychwyn:
Maw – Sad 7.30pm
Mer, Iau + Sad 2.30pm

Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 40 munud, yn cynnwys 1 egwyl

Weithiau bydd salwch neu wyliau’n codi, felly nid oes modd i gynhyrchwyr warantu bod unrhyw un o’r artistiaid yn ymddangos ym mhob perfformiad.

AELODAU

Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), nifer cyfyngedig o lefydd

Aelodaeth

GRWPIAU

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5 o leiaf, Maw – Iau, ar y 2 bris uchaf

Trefnu ymweliad grŵp

POBL O DAN 16 OED

Gostyngiad o £5, Maw – Iau (2 bris uchaf)

16–30

Gostyngiad o £5. Yn gymwys ar y 2 bris drutaf, Llun – Iau.

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon