Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Neighbours – The 40th Anniversary Tour

Wedi’i gyflwyno gan Leah Boleto

16 Chwefror 2025

Theatr Donald Gordon

Mae Maple Tree Entertainment mewn cydweithrediad â Fremantle Australia yn cyflwyno: Neighbours – the 40th Anniversary Tour.

Yn dilyn llwyddiant ysgubol The Celebration Tour a werthodd allan, mae Neighbours yn dychwelyd i’r llwyfan, gyda lein-yp newydd, straeon newydd a rheswm newydd sbon i ddathlu.

Ymunwch â rhai o’ch hoff wynebau o Ramsay Street wrth iddyn nhw ddathlu pedwar degawd o hanes y sioe, ar gyfer Neighbours – The 40th Anniversary Tour.

Gallwch chi ddisgwyl syrpreisys, straeon nad ydych chi wedi’u clywed o’r blaen a syniad o sut mae bywyd yn Erinsborough. Wedi’i gyflwyno (unwaith eto) gan Leah Boleto, dyma fydd y llwncdestun gorau i dros 9,000 o benodau o Neighbours.

Cast i’w gyhoeddi.

CWRDD A CHYFARCH VIP (Wedi gwerthu allan)

Mae tocyn VIP £157 yn cynnwys poster swyddogol y daith, rhodd arbennig swyddogol Neighbours a llun gyda’r cast.

Dim ond nifer bach o docynnau Cwrdd a Chyfarch VIP sydd ar gael.

Mae sesiynau Cwrdd a Chyfarch yn dechrau o 4pm. Bydd ein Tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid yn cysylltu â chi yn nes at yr amser i gadarnhau eich slot amser.

Canllaw oed: 12+ (dim plant o dan 2 oed)

Rhybuddion: Gall gynnwys iaith gref

Amser dechrau: 7.30pm

Hyd y perfformiad: 2 awr 30 munud gan gynnwys egwyl

Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain (BSL): Ar gael ar gais. Cysylltwch â hygyrchedd@wmc.org.uk i archebu tocyn BSL.

Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon