Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Nikita Kuzmin – Midnight Dancer

9 Mawrth 2025

Theatr Donald Gordon

Mae seren Strictly Come Dancing a Celebrity Big Brother Nikita Kuzmin yn dod â’i sioe newydd sbon Midnight Dancer i’r llwyfan ar ei daith gyntaf o’r DU ac Iwerddon.

Bydd Nikita yng nghwmni cast craff a steilus o ddawnswyr a chantorion talentog mewn sioe unigryw, yn llawn caneuon rydyn ni gyd yn eu hadnabod ac yn eu mwynhau mewn noson yn llawn hapusrwydd, gorfoledd ac wrth gwrs, dawns o’r radd flaenaf.

Gan weithio gyda’r tîm tu ôl i Oti Mabuse: I Am Here a thriawd Johannes Radebe o sioeau a werthodd allan, mae Midnight Dancer yn siŵr o fod yn noson fythgofiadwy o adloniant. Paratowch i weld Nikita fel erioed o’r blaen.

Cwrdd a Chyfarch VIP

Profwch Midnight Dancer fel Gwestai VIP gyda Thocyn Cwrdd a Chyfarch.

Mae nifer cyfyngedig o docynnau VIP sy’n cynnwys un o’r seddi gorau sydd ar gael i Midnight Dancer a chyfle i gael llun cyn y sioe gyda Nikita (ar eich dyfais eich hun), poster wedi’i lofnodi a laniard VIP y Daith.

Bydd y sesiwn Cwrdd a Chyfarch VIP yn digwydd am 5.30pm. Rhaid i ddeiliaid tocynnau VIP gyrraedd 30 munud cyn y dechrau oherwydd mae’n bosibl na fydd hwyrddyfodiaid yn cael mynediad. 

Canllaw oed: 8+ (dim plant o dan 2 oed)
Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn

Rhybuddion: Noder bydd y perfformiad hwn yn cynnwys goleuadau sy'n fflachio

Amser dechrau: 7.30pm

Hyd y perfformiad: i'w cadarnhau

Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon