Ar werth i Aelodau Partner a Phartner Awen o 7 Hydref
Ar werth i Aelodau Ffrind a Ffrind+ o 9 Hydref
Ar werth i Grwpiau o 10 Hydref
Ar werth i’r cyhoedd o 11 Hydref
Mae’r New York Times yn ei disgrifio fel ‘The best musical of this century.’ Mae’r Washington Post yn dweud ‘It is the kind of evening that restores your faith in musicals.’ A disgrifiad Entertainment Weekly yw ‘Grade A: the funniest musical of all time.’ Dyma The Book of Mormon, y sioe gerdd sydd wedi ennill naw gwobr Tony a phedair gwobr Olivier.
Mae’r comedi cerddorol sarhaus yma gan Trey Parker a Matt Stone, creawdwyr South Park, a Bobby Lopez, cyd-awdur Avenue Q a Frozen, yn dilyn anffodion pâr anghydweddol o genhadon, sy’n cael eu hanfon ar neges i le sydd mor bell o Salt Lake City â phosib.
Canllaw oed: 14+ (dim plant dan 2 oed)
Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn
Rhybuddion: Yn cynnwys iaith gref, goleuadau sy'n fflachio, goleuadau strôb, pyrotechneg a chleciau uchel
Amser dechrau:
Maw – Sad 7.30pm
Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: tua 2 awr 20 munud (gan gynnwys un egwyl)
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar seddi penodol (noson agoriadol), nifer cyfyngedig
Aelodaeth.
GRŴPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o oleuaf £5 ar seddi penodol (Maw – Iau, Gwe 2.30pm). Dyddiad talu i'w gadarnhau
Trefnu ymweliad grŵp
16–30
Gostyngiad o £8 ar sedddi penodol (Llun – Mer, Gwe 2.30pm)
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.