Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

War Horse

Cynhyrchiad llwyddiannus y National Theatre

Theatr Donald Gordon

14 – 25 Hydref 2025

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London War Horse {{::on_sale_date.label}} Theatr Donald Gordon MM/DD/YYYY 15 event-2311

War Horse

Cynhyrchiad llwyddiannus y National Theatre

14 – 25 Hydref 2025

Theatr Donald Gordon

Mae’r ffenomenon byd-eang yn dychwelyd i Gaerdydd.

Mae cynhyrchiad llwyddiannus y National Theatre yn dychwelyd mewn taith newydd sbon o’r DU ac Iwerddon. Mae War Horse yn brofiad theatraidd bythgofiadwy sy’n mynd â chynulleidfaoedd ar daith arbennig o gaeau gwledig Dyfnaint i ffosydd Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn seiliedig ar y nofel boblogaidd gan Michael Morpurgo, mae’r ddrama emosiynol a dychmygus yma, sy’n llawn cerddoriaeth a chaneuon cynhyrfus, yn sioe o ddyfeisgarwch rhyfeddol. Wrth ei gwraidd mae ceffylau maint go iawn syfrdanol gan Handspring Puppet Company o Dde Affrica, sy’n dod â cheffylau sy’n anadlu, yn carlamu ac yn rhuthro yn fyw ar y llwyfan.

A TRIUMPH OF THEATRICALITY

The Observer

Ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, caiff Joey, ceffyl annwyl Albert, ei werthu i’r Gwŷr Meirch a’i anfon i Ffrainc. Yn fuan caiff ei ddal mewn ymosodiad gan y gelyn, ac mae ffawd yn mynd ag ef ar daith eithriadol, gan wasanaethu ar y ddau ochr cyn ffeindio ei hun yn Nhir Neb ar ei ben ei hun. Dyw Albert, a arhosodd ar fferm ei rieni yn Nyfnaint, methu anghofio Joey. Er nad yw’n ddigon hen i ymrestru, mae’n mynd ar berwyl peryglus i ddod o hyd i Joey a dod ag ef adref.

Yn seiliedig ar y nofel boblogaidd gan Michael Morpurgo | Addaswyd gan Nick Stafford

Mewn cydweithrediad â’r cwmni llwyddiannus Handspring Puppet Company

Canllaw oed: 10+ (dim plant dan 2 oed) mae'n cynnwys iaith gref, pyrotechneg (effaith niwl) a synau uchel sydyn. Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Amser dechrau:
Maw – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm

Hyd y perfformiad: Tua 2 awr 40 munud (gan gynnwys un egwyl)

Weithiau bydd salwch neu wyliau’n codi, felly nid oes modd i gynhyrchwyr warantu bod unrhyw un o’r artistiaid yn ymddangos ym mhob perfformiad.

AELODAU

Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), argaeledd cyfyngedig. Dod yn aelod

GRWPIAU

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5 o leiaf ar seddi penodol, Llun – Iau. Trefnu ymweliad grŵp

16-30

Gostyngiad o £8 ar seddi penodol, Llun – Iau.

O DAN 16

Gostyngiad o £10, Llun – Iau (2 bris uchaf).

Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon