Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
A Celebration of Bay Jazz

A Celebration of Bay Jazz

12 + 13 Hydref

Nid dim ond digwyddiad cerddoriaeth yw Gŵyl Dreftadaeth Jazz Bae Butetown (BBJHF); mae'n ddathliad o dreftadaeth jazz cyfoethog Tiger Bay.

Wedi'i chreu gan y canwr jazz ac awdur Patti Flynn a'r canwr jazz ac addysgwr Humie Webb, nod yr ŵyl yma yw diddanu ac addysgu'r gymuned leol ac ehangach am y dreftadaeth cerddorol cyfoethog yma (sydd bron wedi cael ei anghofio).

Mae BBJHF yn dathlu 15 mlynedd ers ei digwyddiad cyntaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn 2009 ac mae'n falch o fod yn rhan o Llais gan ddathlu jazz y Bae! Fel ei chyd-sylfaenydd, cafodd Patti Flynn ei chydnabod gyda Phlac Porffor am ei chyflawniadau fel awdur, ymgyrchydd a pherfformiwr, sy'n cael ei arddangos wrth fynedfa Cabaret. 

Byddwch yn barod i gael eich syfrdanu gan gerddoriaeth unigryw y Bae, wedi'i chyflwyno gan gerddorion eiconig sydd â'i gwreiddiau yn nociau Caerdydd a Tiger Bay. Fel un o ddifas gwreiddiol y Bay, bydd yr artist cabaret teledu a rhyngwladol syfrdanol Jacky Webbe yn perfformio ei phedwarawd wedi'i arwain gan Nigel Hart, un o bianyddion a chyfarwyddwyr cerddoriaeth mwyaf llwyddiannus Cymru. Ac ar ben hynny, bydd canwr dynamig Tiger Bay Li Harding yn perfformio gyda chydweithredwr hirdymor, y trefnydd-gitarydd jazz Gary Phillips. 

Bydd Chris Hodgkins Quartet yn perfformio dros y penwythnos ac yn rhoi sgwrs arbennig am ei fywyd yn tyfu i fyny yng Nghaerdydd a chael ei fentori gan gitarydd jazz eiconig Tiger Bay, Vic Parker.

Rydyn ni'n llawn cyffro bod y gitarydd jazz a chanwr arobryn Ciyo Brown yn dychwelyd fel un o berfformwyr poblogaidd gwreiddiol BBJHF. Mae'n dod â'i gyfuniad unigryw o jazz teimladwy i'r digwyddiad, gyda chymorth grŵp rhyngwladol o gerddorion. 

Leighton Jones yw un o'r cyfansoddwyr caneuon-cantorion mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Mae wedi cael ei ddisgrifio fel cael 'llais sy'n toddi eira', ac mae ei fand yn cynnwys y drymiwr sy'n adnabyddus yn rhyngwladol, sef Aran Ahmun o Tiger Bay, Geoff Eales ar y piano a'r allweddellydd a chynhyrchydd cerddoriaeth anhygoel Richard Dunn. 

Ochr yn ochr â'r gerddoriaeth wych yma, byddwn ni'n nodi beth fyddai blwyddyn pen-blwydd cyn-Bennaeth Ysgol Mount Stuart, Betty Campbell, yn 90, gyda pherfformiad arbennig (i'w gyhoeddi)! 

Sadwrn 12 Hydref

Sesiwn 1, 4pm

Chris Hodgkins Quartet
Jacky Webbe

Sesiwn 2, 7.15pm

Ciyo Brown
Leighton Jones

Sul 13 Hydref

Sesiwn 1, 4pm

Ciyo Brown
Lily Webbe a gwesteion

Sesiwn 2, 7.15pm

Chris Hodgkins Quartet
Li Harding

O dan 30

Gostyngiad o £5

Cynnig tocynnau 

Archebwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%. 

Archebwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%. 

Wrth brynu ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw'r cynnig yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Lock Off, Street Art Operas na Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.