Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Bombino

Bombino

11 Hydref 2024

Ganed Bombino (ei enw genedigol yw Goumour Almoctar, a chaiff hefyd ei alw’n Oumara Moctar) ym 1980 yn y gwersyll Twareg crwydrol, Tidene, tu allan i Agadez, Niger, a daeth i oed yn ystod cynnwrf gwleidyddol, a bu’n rhaid iddo ffoi gyda’i deulu i Algeria erbyn 1990, cyn dysgu canu gitâr drwy wylio fideos o’i arwyr Jimi Hendrix, Dire Straits, Ali Farka Toure a Tinariwen. 

Roedd ei record gyntaf, Agadez, yn arddangos llais cyfareddol, rhythmau atgofus a hypnotig, a gitâr syfrdanol, a chafodd ei henwi’n un o ddarganfyddiadau gorau’r flwyddyn gan NPR. Fe wnaeth ei ail albwm, Nomad, yn 2013, a recordiwyd gyda Dan Auerbach o The Black Keys, sefydlu Bombino fel seren ar lwyfan y byd ac un o gitaryddion gorau’r byd. 

Bombino greodd y genre newydd 'Tuareggae' - sy’n gyfuniad o gitâr Twareg a rhythm reggae - a chafodd ei enwi gan y New York Times fel 'The Sultan of Shred', ac yn 2018 fe oedd yr artist cyntaf erioed o Niger i gael ei enwebu am Grammy (Albwm Orau Cerddoriaeth y Byd). Mae ei waith diweddaraf o 2023, Sahel, yn galw am undod yn rhanbarth Sahel ac mae’n cynnwys ystod o berfformiadau, o faledi acwstig i draciau gitâr drydan cyflym.  

Er gwaetha’r heriau mae bywyd yn eu taflu ato, mae Bombino’n bwrw ati ar ei ymgyrch i ddefnyddio cerddoriaeth i ledaenu cariad, dealltwriaeth, a harddwch diwylliant Twareg ledled y byd, ac rydyn ni’n falch iawn o’i groesawu i Llais. 

 

Mwy gan Bombino

Amser dechrau: 9.30pm

Hyd y perfformiad: 1 awr a 30 minud

Oed: Pob oed. Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.

O dan 30

Gostyngiad o £5

Cynnig tocynnau

Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.

Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.

I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig Lock Off, Street Art Operas na Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.