Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin

Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin

1 Hydref – 3 Tachwedd 2024

Ail-ddeffro'r hanes anghofiedig.

Rydyn ni yn Montgomery, Alabama, yng nghanol taleithiau gwahanedig de’r Unol Daleithiau, ar fws 2.30pm, ar 2 Mawrth 1955. Mae Claudette Colvin, merch Ddu 15 oed, yn gwrthod ildio’i sedd i deithiwr gwyn. Er gwaethaf bygythiadau, mae’n aros yn ei sedd. Ar ôl cael ei thaflu i’r carchar, mae'n penderfynu erlyn y ddinas a phledio'n ddieuog. Ar y pryd, doedd neb byth yn meiddio gwneud y fath beth. Ac eto, does neb yn cofio’i henw.

Mae Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin yn brofiad trochol sydd wedi’i addasu o ysgrif fywgraffyddol, a ysgrifennwyd gan Tania de Montaigne, sy’n olrhain hanes Claudette Colvin a’i thaith o frwydr i gael ei gadael.

Pan ailadroddodd Rosa Parks yr un weithred naw mis yn ddiweddarach, newidiodd popeth. Gyda chefnogaeth gweinidog ifanc a oedd wedi cyrraedd Montgomery yn ddiweddar, sef Martin Luther King Jr., daeth Rosa Parks yn arwres ac yn wreichionen a daniodd y mudiad hawliau sifil. Crëwyd hanes. Claudette Colvin wnaeth y cyfan yn bosib, ond hi yw'r un sydd wedi cael ei hanghofio. Mae hi'n dal i fyw yn yr Unol Daleithiau heddiw, ac yn 83 oed.

Mae Colored yn tynnu'r gynulleidfa i mewn i leoliad a fydd cyn hir yn llawn o ysbrydion Alabama'r pumdegau. Diolch i realiti estynedig, sy’n caniatáu yn fwy na’r un dechnoleg arall i'r presennol gwrdd â'r gorffennol, gall stori Claudette ddod yn stori i ni, gan osod ei hunan yn ein hatgofion fel eiliad 'fyw' yn ein profiad ni ein hunain lle gallwn ni i gyd ddod yn dystion i'r weithred arwrol yma.

Mewn set a ddyluniwyd yn arbennig ar gyfer y profiad, bydd golygfeydd eiconig o fywyd Claudette Colvin yn ystod ei brwydr dros hawliau sifil yn cael eu hailchwarae o flaen eich llygaid. P'un a fyddwch ar eich pen eich hunan neu yng nghwmni rhywun, cewch ymuno â'ch cyfoedion mewn cyd-brofiad.

'Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin', wedi’i gyfarwyddo gan Stéphane Foenkinos a Pierre-Alain Giraud, yn seiliedig ar waith Tania de Montaigne, wedi’i gynhyrchu gan Novaya mewn partneriaeth â'r Centre Pompidou, a’i gyd-gynhyrchu gyda Flash Forward Entertainment (Taiwan).

Enillydd y Wobr am Waith Ymdrochol Gorau y 77fed Festival de Cannes. 

Gyda chefnogaeth

CNC, Canolfan Genedlaethol y Sinema a'r Ddelwedd Symudol

Rhanbarth Auvergne-Rhône-Alpes

Grant Cynnwys Ymdrochol TAICCA ar gyfer Cyd-ariannu neu Gydgynhyrchiadau Rhyngwladol

Y Sefydliad Ffrengig

FACE FOUNDATION fel rhan o'r rhaglen 'French Immersion'.

BPI France

104factory

104 Paris

4DViews

4J

L-Isa

IPLlab (Taiwan)

ROSCO

IRCAM

PIXII

Clodrestr

Tîm Craidd

Pierre-Alain Giraud
Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr

Stéphane Foenkinos
Cyfarwyddwr

Tania De Montaigne
Awdur 

Emanuela Righi 
Cynhyrchydd

Patrick Mao Huang
Cyd-gynhyrchydd

Christa Chen
Cyfarwyddwr Cynhyrchu Taiwan

Mathieu Denuit
Cyfarwyddwr Technegol

Pierre-Luc Denuit 
Peiriannydd Systemau

Valgeir Sigurðsson
Dyluniad Cerddoriaeth a Sain Gwreiddiol

Nicolas Becker
Dylunydd Sain

Philippe Berthomé 
Dylunydd Goleuo

Laurence Fontaine
Dylunydd Set

Chia Hui Wang 
Dylunydd Gwisgoedd

Louis Moreau
Artist 3D

Amseroedd agor Llais:
Mer 9 Hyd 4pm – 8pm (bob awr, mynediad olaf 7pm)
Iau 10 Hyd 11am – 9pm (bob awr, mynediad olaf 8pm)
Gwe 11 – Sul 13 Hyd: 11am – 10pm (bob awr, mynediad olaf 9pm)

Hyd y profiad: 40 munud. Dylech chi gyrraedd 5 munud cyn eich slot er mwyn paratoi. Ni fyddwch chi’n gallu cael mynediad os byddwch chi’n hwyr.

Canllaw oed: 13+
Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed neu hŷn.

Hygyrchedd: Mae hwn yn brofiad sefyll a cherdded 40 munud o hyd sy’n gallu cael ei addasu ar gyfer pobl sydd â thrafferthion symud. Cysylltwch â ni cyn prynu eich tocyn(nau) fel y gallwn ni wneud addasiadau ar eich cyfer.

Rhybuddion: Mae’n bosibl bydd y profiad yn cynnwys goleuadau sy’n fflachio.

Iaith: Caiff y profiad ei gyflwyno yn Ffrangeg a Saesneg. Byddwch chi’n gallu dewis pa iaith cyn dechrau’r profiad.

O dan 26, Pobl Hŷn, Myfyrwyr ac Anabl

Gostyngiad o £4.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.

Beth yw profiad realiti estynedig?

Mae Realiti Estynedig (AR) yn cyfuno’r byd go iawn â chynnwys digidol, gan greu profiad ymdrochol amlsynhwyraidd. Ar gyfer y profiad yma, byddwch chi’n gwisgo penset realiti estynedig Hololens 2 (sy’n pwyso 566g), penset dargludo drwy’r asgwrn a bag cefn bach.

Profiad realiti estynedig yw Colored sy’n eich cludo i’r Unol Daleithiau, i Montgomery yn Alabama ar 2 Mawrth, 1955. Mewn lleoliad sydd wedi’i ddylunio’n arbennig ar gyfer y profiad, caiff y golygfeydd arwyddluniol o fywyd Claudette Colvin eu hailchwarae o’ch blaen yn ystod ei brwydr dros hawliau sifil. P’un a ydych chi ar eich pen eich hun neu mewn cwmni, byddwch chi’n gallu ymuno â’ch cyfoedion mewn profiad cyfunol.

Oes angen archebu lle?

Oes, mae hwn yn brofiad realiti ymdrochol sydd â nifer cyfyngedig o lefydd felly archebwch ymlaen llaw i osgoi siom ar y diwrnod.

Alla i wisgo fy sbectol?

Gallwch chi wisgo sbectol o dan y penset ond efallai bydd yn fwy cyfforddus i chi wisgo lensys cyffwrdd neu beidio â gwisgo’ch sbectol yn ystod y profiad.

Y maint mwyaf o sbectol sy’n gallu cael ei wisgo gyda’r penset yw 142mm o hyd a 50mm o uchder.

Beth yw'r mesurau iechyd a diogelwch?

Dyw’r rhan fwyaf o bobl ddim yn profi unrhyw ymatebion negyddol i Realiti Estynedig. Fodd bynnag, gall AR fod yn ddryslyd i unigolion sy’n niwroamrywiol, sydd ag amhariadau clywedol neu weledol, neu sy’n profi’r bendro, epilepsi, penysgafnder, trawiadau, salwch teithio neu lewygu.

Bydd hwyluswyr wedi’u hyfforddi wrth law i roi cymorth ac arweiniad yn ystod y profiad os bydd angen.

Rydyn ni'n glanhau a diheintio’r holl offer, gan gynnwys pensetiau, yn drylwyr â weipiau gwrthfacteria o safon ysbyty cyn pob defnydd.

Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad. Ni argymhellir y profiad yma i bobl o dan 13 oed am na fydd y penset yn eu ffitio’n gywir.

Ni chaniateir babis mewn gwregys yn y profiad.

Ni fydd unrhyw westeion sy’n cyrraedd o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn gallu cymryd rhan yn y profiad.